Mae AWTTC wedi adolygu dulliau a phrosesau ei asesiad technoleg iechyd. Ym mis Mai 2023, fe wnaethom roi argymhellion yr adolygiad ar waith a chyflwyno addasydd difrifoldeb. Nod yr addasydd difrifoldeb yw adlewyrchu gwerthoedd cymdeithasol a dewisiadau yn fwy cywir yn ein prosesau gwneud penderfyniadau.
Mae Ffurflen B yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr ac fe’i defnyddir gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), ynghyd â gwybodaeth ychwanegol, wrth baratoi adroddiad asesu ar ein cyfer. Yr adroddiad hwn yw un o’r dogfennau a gyflwynir ar gyfer ein cyfarfod arfarnu.
Dylech lenwi Ffurflen A ar gyfer pob meddyginiaeth sydd newydd ei thrwyddedu, ac ar gyfer pob dynodiad newydd a fformiwleiddiad newydd. Mae Ffurflen A yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar ein Pwyllgor Llywio i benderfynu a ddylem arfarnu meddyginiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhelliad AWMSG ac yn cynghori a ddylid sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer defnyddio'r feddyginiaeth hon o fewn GIG Cymru.
Mae aelodau’r Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG) yn ystyried effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd meddyginiaeth. Gofynnir i aelodau AWMSG ddefnyddio trosolwg strategol a chymdeithasol eang wrth ystyried eu hargymhelliad.
Mae gan Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ddiddordeb cyffredin yn yr ymgyrch i wella mynediad cleifion at feddyginiaethau a thriniaethau newydd. Mae’r ddau sefydliad yn cydnabod y gallant, drwy gydweithio, wella a datblygu canllawiau amserol, annibynnol ac awdurdodol ar feddyginiaeth newydd a dynodiadau trwydded neu fformiwleiddiadau newydd ar gyfer meddyginiaethau sy’n bodoli’n barod, ac ar oblygiadau cost eu gwneud ar gael fel mater o drefn gan y GIG.
Datganiadau sefyllfa AWMSG ar gyfer meddyginiaethau biodebyg, therapïau celloedd a therapïau genynnau.
Mae Ffurflen B yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr ac fe’i defnyddir gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), ynghyd â gwybodaeth ychwanegol, wrth baratoi adroddiad asesu ar ein cyfer. Yr adroddiad hwn yw un o’r dogfennau a gyflwynir ar gyfer ein cyfarfod arfarnu.
Mae Ffurflen C yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cyflwyniad cyfyngedig. Fe’i defnyddir gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), ynghyd â gwybodaeth ychwanegol, wrth baratoi adroddiad asesu ar ein cyfer. Yr adroddiad hwn yw un o’r dogfennau a gyflwynir ar gyfer ein cyfarfod arfarnu.
Mae ein meini prawf eithrio yn rhoi canllawiau eang ar feddyginiaethau sydd y tu allan i’n rôl a’n cylch gwaith, ac maent yn annhebygol o symud ymlaen at arfarniad ffurfiol.
Os na fyddwn yn derbyn eich Ffurflen B neu Ffurflen C o fewn tri mis i feddyginiaeth yn derbyn awdurdodiad marchnata, byddwn yn cyhoeddi Datganiad Cyngor. Bydd hwn yn cadarnhau na ellir cefnogi’r feddyginiaeth ar gyfer ei defnyddio o fewn GIG Cymru.