Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod gan gleifion yng Nghymru fynediad cyflym a theg at feddyginiaethau. Gwellir gweld y pedair proses i gymeradwyo meddyginiaethau i’w defnyddio yn GIG Cymru, rhestr o’n hargymhellion a gwybodaeth ar gyflwyno meddyginiaeth newydd i’w defnyddio ar y dudalen hon.
Rydym wedi cwblhau'r adolygiad o brosesau asesu AWMSG a byddwn yn gweithredu'r diweddariadau gyda pheilot i ddechrau yn ystod chwarter 3 2024. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael o'r wefan hon dros y misoedd nesaf. Gwnaeth AWMSG gymeradwyo’r diweddariadau i'w treialu yn eu cyfarfod ym Mehefin 2024, amlinellir y rhain yn y ddogfen Llwybrau asesu meddyginiaethau AWMSG ar gyfer meddyginiaethau trwyddedig ac all-drwydded.
Yn y cyfamser, rydym yn annog cwmnïau i anfon unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â cheisiadau ar gyfer arfarnu meddyginiaethau atom drwy e-bostio AWTTC@wales.nhs.uk. Fel arall, gall cwmnïau ddarparu gwybodaeth am gynlluniau i lansio meddyginiaethau trwy gwblhau a chyflwyno Ffurflen A.