Neidio i'r prif gynnwy

Meddyginiaethau newydd sydd angen eich barn

Gallai eich mewnwelediadau wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion yng Nghymru. Rydym am glywed gan unigolion neu grwpiau bach o gleifion a gofalwyr, a sefydliadau cleifion mawr.

Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn ag a ddylid defnyddio meddyginiaeth newydd yn GIG Cymru. Mae mewnwelediad i effeithiau gwirioneddol cyflwr iechyd neu feddyginiaeth ar gleifion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr, yn ychwanegu dimensiwn dynol hanfodol i’w asesiadau.

Dywedwch wrthym am eich profiadau ac unrhyw feddyginiaethau yr ydych, neu yr oeddech, yn eu cymryd. Mae’n bwysig dweud wrthym os ydych yn teimlo nad yw eich anghenion o ran triniaeth yn cael eu diwallu. Rydym yn rhestru’r meddyginiaethau rydym yn eu hasesu ar hyn o bryd ar ein tudalen gwaith ar y gweill.

Cwblhewch ein holiadur ar-lein, neu lawrlwythwch ef i’w lenwi a’i e-bostio atom yn awttc@wales.nhs.uk . Os hoffech i ni anfon copi atoch i’w lenwi, cysylltwch â ni. Bydd eich ymatebion yn cael eu cynnwys ym mhapurau’r cyfarfod arfarnu ar gyfer aelodau AWMSG.

Rydym yn croesawu ymatebion gan gleifion a’u teuluoedd a’u gofalwyr, a sefydliadau cleifion.

Unrhyw gwestiynau?

Rydym yn ateb rhai cwestiynau cyffredin isod:

Mae AWTTC hefyd yn cynhyrchu canllawiau presgripsiynu ac adnoddau meddyginiaethau eraill i helpu cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru i wneud yn siŵr bod meddyginiaethau’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn briodol. Hoffem gael eich barn am yr adnoddau yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd - gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y rhain ar ein tudalen gwaith ar y gweill.

Dilynwch AWTTC: