Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ydym ni

Sefydliad y GIG yw AWTTC ac mae’n darparu ystod o wasanaethau. Mae’r gwasanaethau hyn yn cefnogi’r defnydd gorau o feddyginiaethau i helpu cleifion yng Nghymru i fod yn iachach ac yn fwy gwybodus.

Rydym yn cyflogi gwyddonwyr, fferyllwyr, ffarmacolegwyr clinigol, meddygon teulu, economegwyr iechyd, ysgrifenwyr meddygol a gweinyddwyr. Mae ein staff yn gweithio ar asesiadau technoleg iechyd; optimeiddio meddyginiaethau, diogelwch meddyginiaethau a gwenwyneg; ac yn dadansoddi data presgripsiynu. Mae AWTTC wedi’i leoli yng Nghanolfan Academaidd Routledge yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Rydym yn datblygu partneriaethau arloesol i helpu cleifion yng Nghymru i gael y canlyniadau gorau o’u meddyginiaethau. Rydym yn gweithio gyda chleifion, gofalwyr a sefydliadau cleifion; gweithwyr gofal iechyd proffesiynol; y diwydiant fferyllol; sefydliadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynhyrchu canllawiau ar y defnydd gorau o feddyginiaethau i sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn derbyn gofal priodol.

Isod mae rhestr o brif wasanaethau AWTTC.

Dilynwch AWTTC: