Neidio i'r prif gynnwy

Hygyrchedd

Mae’r datganiadhygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru (AWTTC):  https://cttcg.gig.cymru/

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Rydym gynifer o bobl â phosib allu defnyddio r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • Chwyddo hyd at 200% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • Llywio’r rhan fwyaf o r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Llywio’r rhan fwyaf o r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver.

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan  AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddi os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  1. Mae rhai tudalennau yn cynnwys testun sydd â lliwiau gwrthgyferbyniol gwael
  2. Mae rhai tudalennau yn cynnwys penawdau nad ydynt wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol
  3. Nid oes modd defnyddio rhai tudalennau’n llawn gyda’r bysellfwrdd
  4. Nid yw rhai tudalennau wedi’u trefnu mewn modd rhesymegol o ran ffocws

Adborth a chysylltu

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, yn y lle cyntaf, cysylltwch awttc@wales.nhs.uk a byddwn yn trosglwyddo eich cais i'r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi yn ôl yn yr amserlen fyrraf bosibl.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: awttc@wales.nhs.uk

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb  cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni

Os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â Thîm Cydraddoldeb UHB Caerdydd a'r Fro ar 029 2183 6434, e-bostiwch Keithley Wilkinson, Rheolwr Cydraddoldeb, neu cysylltwch trwy'r post, i:

Tîm Cydraddoldeb
Tŷ Coetir
Ffordd Maes y Coed
Caerdydd
CF14 4H
 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru (AWTTC) wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Er ein bod yn ymdrechu i fodloni ‘RhHCG 2.1 AA mae gennym y problemau diffyg cydymffurfio canlynol ar hyn o bryd:

 

  1. Nid yw penawdau ar rai tudalennau mewn trefn nythu resymegol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A)
  2. Mae gan rai elfennau drefn afresymegol o ran ffocws.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.1, Trefn Ffocws Lefel A

Baich anghymesur

Er y byddwn yn blaenoriaethu gwybodaeth i gleifion er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch yn ddigidol lle bynnag y bo modd, rydym yn gwybod bod rhai adrannau o'n gwefan o natur gorfforaethol, nad ydynt yn hygyrch ar hyn o bryd ac sydd wedi'u cynhyrchu ers mis Medi 2018.

Ar gyfer yr adrannau hyn, byddwn yn nodi lle rydym yn gwybod nad yw dogfennau'n cydymffurfio ac yn darparu manylion cyswllt lle bynnag y bo modd. Wrth i ddogfennaeth gael ei hadnewyddu yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau bod hygyrchedd digidol yn cael ei ystyried.

Ar hyn o bryd, rhestrir yr adrannau hyn fel a ganlyn: (ac yn destun newid).

  • Cofnodion cyfarfodydd
  • Adroddiadau a chanllawiau a all gynnwys data adrodd / ystadegol cymhleth
  • Cyhoeddiadau a alla’i fod wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol ers mis Medi 2018 y byddai’n rhaid eu gosod gan drydydd parti.  
Llywio a chyrchu gwybodaeth
  • Nid oes unrhyw ffordd i neidio’r cynnwys sy’n cael ei ail-adrodd ar bennyn y dudalen (er enghraifft, opsiwn ‘neidio i’r prif gynnwys’).
  • Nid yw bob amser yn bosib newid gogwydd y ddyfais o llorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anoddach gweld y cynnwys.
  • Nid yw’n bosib i ddefnyddwyr newid maint testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, weithiau bydd gennym PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, taflenni gwybodaeth i gleifion a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis Ionawr 2021, rydym yn bwriadu naill ai atgyweirio'r rhain neu roi tudalennau HTML neu ffurflenni ar-lein hygyrch yn eu lle.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw'n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft papurau cyfarfod, polisïau'r Bwrdd Iechyd a dogfennaeth weithdrefn neu ddogfennaeth statudol fel Adroddiadau Blynyddol. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau Word newydd yn hygyrch lle bynnag y bo modd.

Rydym yn cyhoeddi dogfennau PDF yn achlysurol sy’n cynnwys ‘trawsgrifiadau, llawysgrifau wedi’u sganio neu nodiadau mewn llawysgrifen’ er enghraifft mewn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth – mae’r rhain y tu allan i’r cwmpas ac ni fyddant yn cael eu datrys.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at ddarparu fersiynau gydag isdeitlau o fidoes a recordiwyd ymlaen llaw.

Paratoi’r datganiad hwn

Paratowyd y datganiad hwn ym mis Medi 2020. Bydd yn cael ei adolygu ym mis Ionawr 2021.

Roedd y wefan hon yn cael ei phrofi ar hyn o bryd i weld a yw'n cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe lefel V2.1 AA, ac mae'r profion hyn wedi'u cynnal yn fewnol.

  •  
Dilynwch AWTTC: