Bydd nifer o newidiadau i broses Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer asesu meddyginiaethau i'w defnyddio yn GIG Cymru yn cael eu gweithredu o 1 Ionawr 2025. Mae hyn yn berthnasol i asesu meddyginiaethau trwyddedig a'r rhai sydd i'w defnyddio’n all-drwydded (h.y. meddyginiaeth a ragnodir ac a ddefnyddir y tu allan i delerau awdurdodiad marchnata Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd y DU (MHRA)).
Mae'r wefan hon yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd gyda gwybodaeth newydd i adlewyrchu'r newidiadau hyn.