Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru

Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad cyflym a theg at feddyginiaethau. Mae pedair proses i gymeradwyo meddyginiaethau i’w defnyddio yn GIG Cymru. Mae ein dogfen Llwybrau mynediad at feddyginiaethau yn GIG Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Rydym wedi cwblhau'r adolygiad o brosesau asesu AWMSG a byddwn yn gweithredu'r diweddariadau gyda pheilot i ddechrau yn ystod chwarter 3 2024. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael o'r wefan hon dros y misoedd nesaf. Gwnaeth AWMSG gymeradwyo’r diweddariadau i'w treialu yn eu cyfarfod ym Mehefin 2024, amlinellir y rhain yn y ddogfen Llwybrau asesu meddyginiaethau AWMSG ar gyfer meddyginiaethau trwyddedig ac all-drwydded.

Yn y cyfamser, rydym yn annog cwmnïau i anfon unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â cheisiadau ar gyfer arfarnu meddyginiaethau atom drwy e-bostio AWTTC@wales.nhs.uk. Fel arall, gall cwmnïau ddarparu gwybodaeth am gynlluniau i lansio meddyginiaethau trwy gwblhau a chyflwyno Ffurflen A.

 

Mae ein fideo yn crynhoi’r gwahanol ffyrdd y mae meddyginiaethau ar gael yng Nghymru.