Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR)

Weithiau efallai na fydd bwrdd iechyd yn darparu meddyginiaeth fel mater o drefn; er enghraifft, meddyginiaeth nad yw’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) y DU, wedi’i thrwyddedu eto ar gyfer trin cyflwr penodol.

Os bydd claf a’i glinigydd yn cytuno y byddai meddyginiaeth nad yw ar gael fel mater o drefn o fudd i’r claf, gall y clinigydd gyflwyno Cais Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) yn gofyn i’r bwrdd iechyd, neu Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) , ariannu’r feddyginiaeth. Gellir gwneud ceisiadau hefyd am feddyginiaethau trwyddedig nad ydynt yn cael eu hargymell ar ôl asesiad technoleg iechyd (HTA)..

Bydd panel annibynnol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau lleyg yn cyfarfod i ystyried yr IPFR a’r dystiolaeth glinigol. Cedwir manylion personol y claf yn gyfrinachol bob amser.

Bydd y panel yn penderfynu ariannu meddyginiaeth os yw'r dystiolaeth a ddarperir yn dangos:

  • disgwylir budd clinigol sylweddol i'r claf penodol hwnnw; a
  • bod cost y feddyginiaeth yn gytbwys â'r budd clinigol disgwyliedig.
Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn gweithio gyda phaneli IPFR a WHSSC i sicrhau bod y broses IPFR yng Nghymru yn deg a chyson. Gweler ein Cwestiynau cyffredin am IPFR ymhellach i lawr y dudalen hon ynghyd â’n fideo am ragor o wybodaeth.
 

Gyda phwy i gysylltu ynglŷn ag IPFR

Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru gydlynydd IPFR a fydd yn gallu eich helpu. Gallwch gysylltu â hwy ar y rhifau ffôn a nodir isod. Sylwer na fyddant yn gallu trafod eich gofal iechyd gan nad ydynt wedi’u hyfforddi’n glinigol ond byddant yn gallu siarad â chi am sut y gellir gwneud cais am driniaeth a sut y caiff ei ystyried. Os oes gennych ymholiad ynglŷn ag IPFR sydd ar y gweill, cysylltwch â’r cydlynydd IPFR yn y bwrdd iechyd perthnasol neu banel PGIAC.

Cwestiynau cyffredin am IPFR

 
Dilynwch AWTTC: