Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno cais IPFR

Dylai cais IPFR gael ei wneud gan y clinigydd sy’n gyfrifol am ofal y claf. Gellir gwneud cyflwyniadau yn electronig drwy gofrestru gyda chronfa ddata IPFR Cymru Gyfan neu ddefnyddio’r ffurflen gais.

Dylid cyflwyno’r cais i’r tîm IPFR perthnasol yn dibynnu ar ble mae’r claf yn byw. Cysylltwch â'r tîm IPFR perthnasol am ragor o wybodaeth.

Ffurflen gais a nodiadau canllaw

 

Proses IPFR - Cwestiynau cyffredin ar gyfer clinigwyr

Dylech drafod gyda’ch claf y rhesymau pam fod angen i chi wneud cais IPFR a pham y credwch fod y driniaeth arfaethedig o fudd i’w gyflwr clinigol.

Cyn eich bod chi a’ch claf gytuno i gyflwyno IPFR, gwnewch yn siŵr eich bod wedi trafod manteision a risgiau tebygol y driniaeth arfaethedig ac unrhyw driniaethau amgen sydd ar gael, gan gynnwys dim triniaeth. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud eich claf yn ymwybodol y gall y panel ddewis gwrthod cyllido’r driniaeth a beth fyddai’r opsiynau yn mewn amgylchiadau o’r fath.

Mae angen i chi hefyd egluro i’r claf y bydd tîm gweinyddu IPFR yn cadw copi o’r ffurflen gais fel rhan o’r broses weinyddu. Defnyddir y wybodaeth hon i helpu i lywio gofynion cynllunio yn y dyfodol drwy nodi carfannau cleifion ar lefel leol a chenedlaethol. Defnyddir data hefyd ar gyfer cynhyrchu adroddiad blynyddol ar geisiadau IPFR, sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Wrth wneud hynny, bydd tîm gweinyddu IPFR yn sicrhau bod hunaniaeth y claf yn aros yn gyfrinachol.

Efallai y bydd claf yn dymuno optio allan o gael ei wybodaeth wedi’i hychwanegu at y gronfa ddata. Eich cyfrifoldeb chi yw hysbysu gweinyddwr yr IPFR os yw hyn yn wir.

Eich cyfrifoldeb chi yw llenwi a chyflwyno’r ffurflen gais IPFR. Gellir gwneud hyn mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys drwy’r post, ffacs, e-bost neu e-gyflwyno. Rhoddir dolenni i’r ffurflen gyflwyno electronig a ffurflen y gellir ei lawrlwytho ar frig y dudalen hon.

Ni fydd ffactorau anghlinigol (megis statws cyflogaeth neu gyfrifoldebau gofalu) yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ar IPFR.

Ni chaniateir i gleifion fynychu cyfarfodydd panel. Gallant ddarparu datganiad ysgrifenedig i’w ystyried, fodd bynnag ni fydd ffactorau anghlinigol yn cael eu hystyried.

Bydd y panel IPFR fel arfer yn gwneud ei benderfyniad ar sail yr holl dystiolaeth ysgrifenedig a ddarperir. Fodd bynnag, gallant ofyn am eich presenoldeb chi i roi eglurhad ar faterion penodol neu ofyn am gyngor clinigol arbenigol annibynnol os oes angen. Efallai y byddant hefyd am gysylltu â chi dros y ffôn felly dylech sicrhau eich bod ar gael lle bo modd er mwyn osgoi unrhyw oedi posibl yn y broses benderfynu.

Bydd y cais IPFR yn cael ei sgrinio er mwyn gweld a yw’n addas o fewn pump diwrnod gwaith o’i dderbyn. Lle bernir bod cais yn un o frys clinigol, caiff yr achos ei ystyried o fewn 24-48 awr, fodd bynnag mae angen cyfiawnhad clinigol. Dylid ystyried canlyniadau gofyn am benderfyniad brys: efallai na fydd panel llawn yn gwrando ar yr achosion hyn; efallai mai ychydig o amser sydd gan y clinigydd i ddarparu achos cadarn ac ychydig iawn o amser sydd i’r corff priodol ddarparu adolygiad o’r dystiolaeth, lle bo’n briodol.

Ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys, cynhelir y rhan fwyaf o gyfarfodydd y panel o leiaf unwaith y mis.

Bydd llythyr yn datgan penderfyniad, a’r rhesymeg dros y penderfyniad hwnnw, yn cael ei anfon atoch o fewn pump diwrnod gwaith i gyfarfod y panel. Bydd y claf yn derbyn llythyr yn egluro bod penderfyniad wedi’i wneud ac y byddwch yn cysylltu ag ef neu hi o fewn pump diwrnod gwaith er mwyn trafod canlyniad y penderfyniad.

Mae’n bwysig bod y claf yn deall y rhesymeg dros y penderfyniad a wneir. Os gwneir y penderfyniad i ariannu’r driniaeth, bydd angen caniatâd priodol ar gyfer y driniaeth/gweithdrefn ar ôl trafodaeth lawn gyda’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n gyfrifol am bresgripsiynu neu ddarparu’r driniaeth.

Os penderfynir gwrthod cyllid, dylid trafod opsiynau triniaeth amgen gan gynnwys, os yw’n briodol, y gofal cefnogol gorau.

Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad, ond os ydych chi neu’ch claf yn credu nad yw’r broses wedi’i dilyn yn gywir gallwch gyflwyno cais am adolygiad. Mae angen cyflwyno unrhyw geisiadau am adolygiad ynglŷn â sut y daethpwyd i’r penderfyniad i’r bwrdd iechyd ar y ffurflen briodol o fewn 25 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr penderfyniad.

Bydd. Waeth beth fo’r penderfyniad, disgwylir i ddata canlyniadau cleifion gael eu darparu. Bydd tîm gweinyddu IPFR yn anfon holiadur canlyniad IPFR atoch er mwyn rhoi diweddariad ar gynnydd y claf.

Dilynwch AWTTC: