Neidio i'r prif gynnwy

Ein pwyllgorau

Cliciwch ar y dolenni neu sgroliwch i lawr y dudalen i gael gwybodaeth am:


Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG)

Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio, rheoli a phresgripsiynu meddyginiaethau yng Nghymru. Mae AWTTC yn cefnogi AWMSG a’i is-grwpiau. Rôl AWMSG yw:

  • Datblygu cyngor amserol, annibynnol ac awdurdodol ar feddyginiaethau newydd.
  • Cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â datblygiadau ym maes gofal iechyd yn y dyfodol.
  • Cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth presgripsiynu meddyginiaethau i Gymru.

Lawrlwytho Cyfansoddiad AWMSG

Mae AWTTC yn cefnogi AWMSG a’i is-grwpiau: y Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG) a’r Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Bresgripsiynu (AWPAG). Mae staff AWTTC yn gweithio ar asesiadau technoleg iechyd; rheoli presgripsiynu meddyginiaethau, diogelwch a gwenwyneg; a dadansoddi data presgripsiynu a fydd yna’n cael ei ystyried gan AWMSG a’i is-grwpiau.

Strategaeth Meddyginiaethau i Gymru

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu strategaeth pum mlynedd ar gyfer AWMSG, yn gyson â menter Gofal Iechyd Darbodus Llywodraeth Cymru, a’r egwyddorion a amlinellir yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb: y Strategaeth i Gymru.

Lawrlwytho Strategaeth Pum Mlynedd 2018-2023 AWMSG

Mae fersiynau blaenorol o strategaeth AWMSG ar gael ar y dudalen Strategaethau Meddyginiaethau i Gymru.

Aelodaeth AWMSG

Mae’r pwyllgor yn cynnwys meddygon ymgynghorol y GIG, meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, economegwyr iechyd, cynrychiolwyr y diwydiant fferyllol ac aelodau lleyg sy’n cyfuno eu harbenigeddau a’u gwybodaeth i gytuno ar ddefnydd meddyginiaethau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghymru.

Bydd AWMSG fel arfer yn cyfarfod 10 gwaith y flwyddyn ac mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd. Mae dyddiadau a phapurau cyfarfodydd ar gyfer cyfarfodydd AWMSG sydd i ddod ynghyd â chofnodion ac agendâu cyfarfodydd blaenorol ar gael ar dudalen cyfarfodydd AWMSG.

Mae’n rhaid i holl aelodau AWMSG lenwi ffurflen Datgan Diddordeb bob blwyddyn a chyn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod AWMSG.

Aelodau pleidleisio AWMSG yw:

Yr Athro Iolo Doull Cadeirydd
Yr Athro Stephen Monaghan Meddyg Ymgynghorol ym maes Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus
Eleri Shiavone Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Yr Athro Dyfrig Hughes Economegydd Iechyd
Farhan Mughal / Tommy Price / Kate Parrish Cynrychiolydd ABPI Cymru (un cynrychiolydd yn bresennol ym mhob cyfarfod)
Cliff Jones Cynrychiolydd Lleyg
Claire James Cynrychiolydd Lleyg
Dylan Jones Fferyllydd Cymunedol
Dr Jim McGuigan Cyfarwyddwr Meddygol
Dr Jeremy Black Meddyg Teulu gyda rôl presgripsiynu arweiniol
Alison Hughes Fferyllydd Sector a Reolir
John Terry Fferyllydd Sector a Reolir
Hywel Pullen Cyfarwyddwr Cyllid
Mandy James Uwch-nyrs
Cathy Wynne Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n gymwys i bresgripsiynu
Dr Alison Thomas Ffarmacolegydd Clinigol
Dr Samantha Cox Cyfarwyddwr Meddygol
Ein dirprwy aelodau pleidleisio yw:
Gwag Meddyg Ymgynghorol ym maes Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus
Dr Helen Fardy Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Yr Athro Pippa Anderson Economegydd Iechyd
Gwag Cynrychiolydd Lleyg
Gwag Fferyllydd Cymunedol
Gwag Cyfarwyddwr Meddygol
Gwag Meddyg Teulu gyda rôl presgripsiynu arweiniol
Rafia Jamil Fferyllydd Sector a Reolir
Stuart Rees Fferyllydd Sector a Reolir
James Leaves Cyfarwyddwr Cyllid
Katherine White Uwch-nyrs
Karl Jackson Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n gymwys i bresgripsiynu
Dr Manjeet Singh Ffarmacolegydd Clinigol
Dr Manjeet Singh Cyfarwyddwr Meddygol

Mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, y Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG) a Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) hefyd yn dod i’n cyfarfodydd ond nid ydynt yn pleidleisio.

Adroddiadau blynyddol AWMSG

Lawrlwytho Adroddiad Blynyddol AWMSG 2020-2021

Mae adroddiadau blynyddol blaenorol AWMSG ar gael ar dudalen adroddiadau blynyddol AWMSG

Hanes AWMSG

Ar ddiwedd 1999, sefydlodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Bresgripsiynu, dan gadeiryddiaeth Syr Norman Mills, i gynghori ar wella arferion presgripsiynu a darpariaeth meddyginiaethau yng Nghymru. Argymhellodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen sefydlu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan a datblygu Strategaeth Presgripsiynu Cymru Gyfan. Sefydlwyd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn 2002 i gynghori Llywodraeth Cymru ar reoli a phresgripsiynu meddyginiaethau mewn modd effeithiol, effeithlon a thryloyw.

Lawrlwytho adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Bresgripsiynu, a gyhoeddwyd yn 2001.

Yn ôl i'r brig


Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG)

Mae’r Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG) yn is-grŵp AWMSG ac mae’n cefnogi asesiadau meddyginiaethau newydd. Mae aelodau NMG yn ystyried yr holl dystiolaeth ynglŷn â pha mor dda y mae meddyginiaeth yn gweithio a faint fydd yn gostio i GIG Cymru (effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd). Mae hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth a gyflwynir gan gwmni fferyllol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion, gofalwyr a sefydliadau cleifion neu grwpiau cymorth.

Bydd yr NMG yn cyfarfod hyd at 10 gwaith y flwyddyn, i drafod yr holl dystiolaeth ar gyfer pob meddyginiaeth sy’n cael ei hasesu. Yn y cyfarfod byddant yn cytuno ar argymhelliad i’w roi i AWMSG am bob meddyginiaeth. Mae dyddiadau cyfarfodydd NMG ar gyfer 2022 ar gael ar dudalen cyfarfodydd NMG.

Cynhelir holl gyfarfodydd yr NMG yn breifat.

Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am aelodaeth NMG a chyfansoddiad NMG

Mae’n rhaid i holl aelodau NMG lenwi ffurflen Datgan Diddordeb bob blwyddyn a chyn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod NMG.

Yn ôl i'r brig


Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Bresgripsiynu (AWPAG)

Mae Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Bresgripsiynu (AWPAG) yn is-grŵp AWMSG ac mae’n cynghori ar ddatblygiadau strategol ym maes presgripsiynu meddyginiaethau a’u defnydd diogel ac effeithiol yng Nghymru.

Mae AWPAG yn gweithio i:

  • datblygu a gweithredu strategaethau i hyrwyddo presgripsiynu diogel, rhesymegol a chost-effeithiol
  • monitro patrymau presgripsiynu meddyginiaethau a datblygu dangosyddion priodol
  • cynghori ar hyfforddiant, addysg a datblygiad proffesiynol i bresgripsiynwyr meddyginiaethau
  • asesu effeithiau datblygiadau sy’n ymwneud â meddyginiaethau
  • cydweithio â grwpiau a sefydliadau eraill i hyrwyddo’r defnydd gorau ar feddyginiaethau i gleifion yng Nghymru

Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am aelodaeth AWPAG a Chyfansoddiad AWPAG.

Cynhelir cyfarfodydd AWPAG yn breifat. Mae dyddiadau cyfarfodydd AWPAG ar gyfer 2021 a chofnodion cyfarfodydd blaenorol ar gael ar dudalen cyfarfodydd AWPAG.

Rhaid i holl aelodau AWPAG lenwi ffurflen Datganiad Buddiant bob blwyddyn a chyn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod AWPAG.

Yn ôl i'r brig


Pwyllgor Llywio AWMSG

Mae'r Pwyllgor Llywio yn cynllunio ac yn blaenoriaethu rhaglen waith AWMSG.

Mae'r pwyllgor yn cynnwys:

  • Cadeirydd AWMSG
  • Cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru
  • • Cynrychiolwyr Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC)

Mae'r pwyllgor yn cyfarfod bob mis, yn breifat, i:

  • cynghori a chefnogi aelodau AWMSG
  • monitro cynnydd ein gwaith
  • cynllunio ein rhaglen arfarnu meddyginiaethau
  • siarad am waith AWPAG, NMG, Fforwm y Diwydiant, a’n gweithgorau
  • clywed adroddiadau ar gyfarfodydd a fynychwyd gan aelodau AWMSG, AWTTC a Llywodraeth Cymru

I siarad am y rhaglen arfarnu meddyginiaethau, gellir gwahodd cynrychiolwyr o’r canlynol:

  • Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC)
  • Prif Fferyllwyr Cymru
  • Rhwydwaith Cardiaidd
  • Rhwydwaith Canser
  • Pwyllgor Contractio Cyffuriau Cymru Gyfan
  • Bwrdd Rhaglen Genedlaethol Rheoli Meddyginiaethau

Gellir gwahodd aelodau AWMSG hefyd i gyfarfodydd y Pwyllgor Llywio.

Yn ôl i'r brig


Grŵp Asesu Meddyginiaethau Cymru’n Un (OWMAG)

Arferai OWMAG gael ei adnabod fel y Grŵp Comisiynu Llwybrau Dros Dro (IPCG) tan fis Mehefin 2021. Mae OWMAG yn cynnwys cynrychiolaeth o bob panel IPFR, aelod lleyg, cynrychiolydd y diwydiant, cynrychiolydd cyllid, ffarmacolegydd clinigol ac economegydd iechyd. Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am aelodaeth OWMAG.

Mae cofnodion cyfarfodydd blaenorol ar gael o gyfarfodydd OWMAG tudalen.

Yn ôl i'r brig


Grŵp Cynghori Canolfan Cerdyn Melyn Cymru

* cynnwys yn ofynnol *.

Yn ôl i'r brig

Dilynwch AWTTC: