Neidio i'r prif gynnwy

AWMSG Strategaeth i Gymru: 2024-2029

Front cover image of the AWMSG Strategy for 2024 to 2029 Bydd Strategaeth Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau y gall pawb yng Nghymru dderbyn gwasanaethau iechyd sy’n diwallu eu hanghenion. Bydd AWMSG yn cydweithio â sefydliadau partner allweddol ar draws GIG Cymru fel y gallant weithio gyda'i gilydd tuag at gyflawni eu pedwar uchelgais: gwella canlyniadau i gleifion; sicrhau bod y meddyginiaethau iawn ar gael ar yr amser iawn; lleihau niwed sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau a gwella diogelwch; a gwneud y gorau o'r gwerth y mae'r GIG yn ei gyflawni o'i fuddsoddiadau mewn meddyginiaethau.

Nod y strategaeth yw gwneud cynnydd sylweddol mewn ystod eang o amcanion sydd wedi’u grwpio o dan wyth nod:

  1. Mae cyngor, adnoddau ac arweiniad yn adlewyrchu blaenoriaethau ac anghenion pobl a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yng Nghymru
  2. Mae cyngor, adnoddau ac arweiniad AWMSG yn cael eu lledaenu, eu hyrwyddo'n eang a'u gweithredu'n rheolaidd
  3. Defnyddir data a thechnoleg i wella gwerth, canlyniadau cleifion a diogelwch
  4. Mae prosesau asesu meddyginiaethau yn drylwyr, yn amserol ac yn sicrhau gwerth
  5. Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn derbyn hyfforddiant o ansawdd uchel yn y defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau
  6. Mae pobl yng Nghymru yn cymryd eu meddyginiaethau mewn ffordd sy'n gwneud yn fawr o'u canlyniadau iechyd
  7. Lleihau gwastraff sy'n gysylltiedig â defnyddio meddyginiaethau a gwella cynaliadwyedd
  8. Mae manteision meddyginiaethau manwl ar sail geneteg yn cael eu gwireddu yng Nghymru.

Darllenwch y ddogfen strategaeth lawn am ragor o wybodaeth, a chysylltwch ag AWTTC@wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

⇩ AWMSG Strategaeth i Gymru: 2024-2029 1.2MB (PDF)

(Cyhoeddwyd Ebrill 2024)

Dilynwch AWTTC: