Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth gychwynnol (Ffurflen A)

Pam?

Dylech lenwi Ffurflen A ar gyfer pob meddyginiaeth sydd newydd ei thrwyddedu. Mae Ffurflen A yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i ni benderfynu a ddylai AWMSG arfarnu meddyginiaeth.

Pryd?

Dylech gyflwyno Ffurflen A mor gynnar â phosibl a chyn derbyn awdurdodiad marchnata.

Sut?

Llenwch ein Ffurflen A gan ddefnyddio’r dogfennau a ddarperir yn y pecyn cyflwyno Ffurflen A isod a’i hanfon i AWTTC.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl derbyn eich Ffurflen A, bydd AWTTC yn cadarnhau a yw eich meddyginiaeth yn bodloni ein meini prawf ar gyfer arfarnu ac a oes angen cyflwyniad llawn (Ffurflen B) neu gyflwyniad cyfyngedig (Ffurflen C). Os nad yw eich meddyginiaeth yn bodloni ein meini prawf ar gyfer arfarnu yna byddwn yn eich hysbysu bod y feddyginiaeth wedi’i 'heithrio o asesiad technoleg iechyd' ac ni fydd yn cael ei harfarnu.

Sylwch nad yw AWMSG bellach yn arfarnu meddyginiaethau fel mater o drefn gydag estyniad bychan i’r drwydded ar gyfer trin plant a’r glasoed (hyd at 18 oed) lle mae’r feddyginiaeth yn cael ei derbyn i’w defnyddio gan AWMSG neu NICE am yr un arwydd yn y boblogaeth oedolion. Gweler yr adran Gwybodaeth Ychwanegol - Arfarniad o estyniadau trwyddedau pediatrig am ragor o wybodaeth.

Beth sy'n digwydd ar wefan AWTTC ar hyn o bryd?

Dim byd. Ni fydd eich meddyginiaeth yn cael ei rhestru ar y wefan hon ar ôl derbyn eich Ffurflen A ac ni fydd y Ffurflen A a gyflwynwyd byth yn cael ei chyhoeddi ar y wefan hon.

Rhestrir y feddyginiaeth ar ein gwefan ar Gam 2 ein proses:

  • unwaith y byddwn wedi derbyn cyflwyniad Ffurflen B neu Ffurflen C a’n bod wedi cadarnhau cwmpas yr arfarniad a’r amserlen ar gyfer yr arfarniad; neu
  • os yw’r feddyginiaeth wedi’i heithrio o’n proses arfarnu; neu
  • os na chyflwynir Ffurflen B neu Ffurflen C o fewn tri mis wedi i’r feddyginiaeth dderbyn ei hawdurdodiad marchnata.

Pecyn cyflwyno ffurflen A

 
Dilynwch AWTTC: