Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfodydd arfarnu (NMG ac AWMSG)

Pam?

Mae aelodau’r Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG) yn ystyried effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd meddyginiaeth. Gofynnir i aelodau AWMSG ddefnyddio trosolwg strategol a chymdeithasol eang wrth ystyried eu hargymhelliad. Cyfeiriwch at AWMSG summary guidelines for appraising medicines (PDF, 422Kb) (Saesneg yn unig) i gael mwy o wybodaeth.

Pryd?

Bydd AWTTC yn cadarnhau dyddiadau cyfarfodydd NMG a AWMSG yn y cwmpas arfarnu ar ôl derbyn Ffurflen B neu Ffurflen C, ac adolygu ei chyflwyniad er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn gyflawn a phriodol.

Sut?

Cynhelir y cyfarfod NMG yn breifat ac ni wahoddir y cwmni sy’n gwneud y cais i fynychu. Bydd aelodau NMG yn ystyried Adroddiad Asesiad Ysgrifenyddiaeth AWMSG (ASAR), ymateb y cwmni i’r ASAR (CR/ASAR), Ffurflen B neu Ffurflen C, a thystiolaeth ysgrifenedig gan arbenigwyr clinigol (pan fydd ar gael). Bydd aelodau’r NMG yn adolygu’r ddogfennaeth arfarnu er mwyn gwneud Argymhelliad Arfarnu Rhgarweiniol (PAR).

Cynhelir y cyfarfod AWMSG yn gyhoeddus, er weithiau efallai y cynhelir arfarniad meddyginiaeth benodol yn breifat. Cyfeiriwch at AWMSG appraisal process FAQs (PDF, 552Kb) (Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth. Bydd papurau cyfarfod AWMSG ar gael ar ein gwefan tua 10 diwrnod cyn y cyfarfod. 

Rydym yn annog cwmnïau sy’n gwneud cais i fynychu cyfarfod cyhoeddus AWMSG, er nad oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Cyn y cyfarfod, bydd AWTTC yn gwahodd y cwmni i enwebu dau gynrychiolydd: un i ateb cwestiynau am yr achos dros gost-effeithiolrwydd, ac un i ateb cwestiynau am effeithiolrwydd clinigol.

Bydd AWMSG yn ystyried yr ASAR, y PAR ac ymateb y cwmni i’r PAR (CR/PAR). Bydd AWMSG hefyd yn rhoi ystyriaeth i farn arbenigwyr clinigol, unrhyw faterion yn ymwneud ag effaith gymdeithasol ac effaith ar gyllideb, a bydd yn ystyried safbwynt y claf. Cytunir ar Argymhelliad Arfarnu Terfynol (FAR). Mae AWMSG recommendation wording (PDF, 403Kb) (Saesneg yn unig) yn rhoi eglurhad ar eiriad ein hargymhellion.

I gael manylion llawn amserlen ein proses arfarnu, gan gynnwys cyfleoedd cwmnïau sy’n gwneud cais i wneud sylwadau, cyfeiriwch at ein AWMSG appraisal process flow diagram and timeline (PDF, 385Kb) (Saesneg yn unig).

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cam olaf ein proses yw bod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau argymhelliad AWMSG. Rhoddir gwybodaeth am y cam hwn yn ein hadran Cam 4.

Mynegi pryder

Gallai fod amgylchiadau lle mae gan gwmni sy’n gwneud cais bryderon ynglŷn â gwahaniaethau mewn barn wyddonol neu ddehongliad data. Neu efallai y bydd cwmni sy’n gwneud cais yn teimlo nad oes digon o amser neu gyfle wedi’i neilltuo ar gyfer trafod materion perthnasol. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd am wneud cwyn yn seiliedig ar y broses. Yn y ddau achos, efallai mai adolygiad annibynnol fydd y ffordd fwyaf priodol i fynd i’r afael â’r gŵyn.

Beth sy’n mynd ar wefan AWTTC ar y cam hwn?

Diweddarir rhestriad eich meddyginiaeth tua 10 diwrnod cyn cyfarfod AWMSG i gynnwys dolenni i Adroddiad Asesiad Ysgrifenyddiaeth AWMSG (ASAR), yr Argymhelliad Arfarnu Rhagarweiniol (PAR) ac ymateb y cwmni i’r PAR (CR/PAR).

Dogfennau

Dilynwch AWTTC: