Neidio i'r prif gynnwy

Meddyginiaethau wedi'u heithrio

Pam?

Mae ein meini prawf eithrio yn rhoi canllawiau eang ar feddyginiaethau sydd y tu allan i’n  rôl a’n cylch gwaith, ac maent yn annhebygol o symud ymlaen at arfarniad ffurfiol.

Pryd?

Pan fyddwch yn llenwi Ffurflen A, dylech nodi a ydych chi’n meddwl y bydd unrhyw rai o’n meini prawf eithrio yn berthnasol. Bydd ein Pwyllgor Llywio yn penderfynu a yw meddyginiaeth yn bodloni ein meini prawf ar gyfer arfarnu. Bydd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn rhoi gwybod i chi beth yw ein penderfyniad.

Sut?

Wrth lenwi ein Ffurflen A, dylech gyfeirio at AWMSG exclusion criteria (PDF, 430Kb) (Saesneg yn unig) i weld a oes unrhyw feini prawf yn berthnasol i’ch meddyginiaeth.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd AWTTC yn cadarnhau (drwy e-bost neu lythyr) a yw meddyginiaeth yn bodloni un neu ragor o’n meini prawf eithrio ac na fyddwn yn ei harfarnu.

Os bydd meddygaeth wedi’i 'heithrio' o arfarniad AWMSG, gall byrddau iechyd yng Nghymru ystyried a yw’n briodol i’w chynnwys yn y rhestr fformiwlâu leol, oni bai ei bod wedi'i heithrio oherwydd bod NICE yn ei harfarnu. Bydd y canllawiau NICE sy’n deillio o hyn yn berthnasol yng Nghymru.

Sylwch nad yw AWMSG bellach yn arfarnu meddyginiaethau fel mater o drefn gydag estyniad bychan i’r drwydded ar gyfer trin plant a’r glasoed (hyd at 18 oed) lle mae’r feddyginiaeth yn cael ei derbyn i’w defnyddio gan AWMSG neu NICE am yr un arwydd yn y boblogaeth oedolion. O dan yr amgylchiadau hyn, mae disgwyliad y bydd Byrddau Iechyd yn parhau i ychwanegu estyniadau i drwyddedau pediatrig at eu cyffurlyfrau. Gweler yr adran Gwybodaeth Ychwanegol - Arfarniad o estyniadau trwyddedau pediatrig am ragor o wybodaeth.

A gyhoeddir y penderfyniad ar wefan AWTTC?

Bydd meddyginiaethau sydd wedi’u heithrio o arfarniad AWMSG yn cael eu rhestru ar y wefan hon (unwaith y cânt awdurdodiad marchnata) ynghyd â’r rheswm dros eu heithrio. Fodd bynnag, ni fydd estyniadau trwydded pediatrig newydd yn cael eu rhestru.

Dogfen

AWMSG exclusion criteria (PDF, 430Kb) (Saesneg yn unig)

Gweler ein Gwybodaeth gychwynnol (Ffurflen A) ar gyfer canllawiau a dogfennau i’w llenwi yn Ffurflen A.

Dilynwch AWTTC: