Neidio i'r prif gynnwy

AWMSG mewn perthynas â NICE

Mae gan Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ddiddordeb cyffredin yn yr ymgyrch i wella mynediad cleifion at feddyginiaethau a thriniaethau newydd.

Mae’r ddau sefydliad yn cydnabod y gallant, drwy gydweithio, wella a datblygu canllawiau amserol, annibynnol ac awdurdodol ar feddyginiaeth newydd a dynodiadau trwydded neu fformiwleiddiadau newydd ar gyfer meddyginiaethau sy’n bodoli’n barod, ac ar oblygiadau cost eu gwneud ar gael fel mater o drefn gan y GIG.

Ym mis Mai 2012, cytunwyd ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth sy’n nodi’n ffurfiol gydweithrediad rhwng NICE ac AWMSG. Mae’r memorandwm yn nodi’r amgylchiadau o dan ba rai y bydd NICE ac AWMSG yn cydweithio ac mae’n cynnwys y rhaglen waith arfarnu (amserlennu), gweithrediad, cefnogaeth i ganllawiau, cynlluniau mynediad cleifion a phrisio ar sail gwerth. Y nod yw ymuno’r cynllunio strategol, datblygu a chyflenwi canllawiau yng Nghymru a Lloegr, gan osgoi dyblygu neu wrthdaro gwaith, ond eto’n ategu a chefnogi gwaith NICE ac AWMSG.

Arfarniadau

Ariennir meddyginiaethau gan GIG Cymru yn dilyn canllawiau o ddwy ffynhonnell: AWMSG a NICE. Bydd AWMSG yn rhoi ystyriaeth i raglen waith NICE ar gyfer y dyfodol pan fydd yn ystyried a yw am arfarnu meddyginiaeth. Ni fydd AWMSG fel arfer yn ystyried arfarnu meddyginiaeth os bydd NICE yn cyhoeddi arfarniad terfynol o’r un feddyginiaeth o fewn 12 mis i ddyddiad awdurdodiad marchnata’r feddyginiaeth. Mae cyngor AWMSG yn interim i ganllaw NICE, os cyhoeddir canllaw NICE yn ddiweddarach.

Heb ganllaw gan AWMSG neu NICE, dylai presgripsiynwyr unigol arfer eu barn glinigol oni bai bod tystiolaeth i beidio â gwneud hynny yng ngoleuni amgylchiadau penodol claf unigol.

Ym mis Tachwedd 2013, er mwyn rhoi mynediad teg i gleifion yng Nghymru at feddyginiaethau, cytunodd AWMSG i ystyried ceisiadau i arfarnu meddyginiaethau sydd wedi derbyn argymhelliad negyddol gan NICE yn y gorffennol oherwydd nad oeddent yn gost effeithiol, ond sy’n cael eu hariannu yn Lloegr drwy lwybrau comisiynu cenedlaethol amgen.

Dogfennau