Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad llawn (Ffurflen B)

Pam?

Mae Ffurflen B yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr ac fe’i defnyddir gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), ynghyd â gwybodaeth ychwanegol, wrth baratoi adroddiad asesu ar ein cyfer. Yr adroddiad hwn yw un o’r dogfennau a gyflwynir ar gyfer ein cyfarfod arfarnu.

Pryd?

Dylech gyflwyno Ffurflen B ar ôl derbyn cais a chadarnhad AWTTC (drwy e-bost neu lythyr) ynglŷn â chwmpas yr arfarniad. Gallwch gyflwyno Ffurflen B wedi’i llenwi cyn i’r feddyginiaeth dderbyn awdurdodiad marchnata a hyd at dri mis wedi hynny.

Sut?

Llenwch Ffurflen B gan ddefnyddio’r dogfennau a ddarperir ym mhecyn cyflwyno Ffurflen B a’i hanfon i awttc@wales.nhs.uk. Mae’n hollbwysig cyfeirio at nodiadau canllaw Ffurflen B wrth lenwi Ffurflen B; gall peidio â gwneud hynny arwain at gyflwyniad annigonol.

Mae cyfyngiad ar faint y ffeil y bydd ein blwch post e-bost yn ei dderbyn a bydd ffeiliau e-bost GIG Cymru yn rhwystro ffeiliau sip. Fel dewis arall yn lle e-bost, efallai y bydd cwmnïau am uwchlwytho ffeiliau a dogfennau mawr / sip sy'n cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif yn uniongyrchol i'r AWTTC Vault, porth diogel i rannu ffeiliau.  Cysylltwch â ni i drefnu mynediad diogel i'n Vault.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd AWTTC yn cadarnhau (drwy e-bost neu lythyr) a yw’r Ffurflen B a gyflwynwyd yn gyson â’r cwmpas y cytunwyd arno a bydd yn egluro’r amserlen arfarnu. A fyddech cystal â nodi na fydd dyddiad arfarnu yn cael ei bennu nes bod y cwmni sy’n gwneud cais wedi darparu cyflwyniad cyflawn.

Beth sy’n mynd ar wefan AWTTC ar y cam hwn?

Caiff eich meddyginiaeth ei rhestru ar y wefan hon unwaith eich bod wedi cyflwyno Ffurflen B. Bydd y cofnod yn rhoi manylion sylfaenol am y feddyginiaeth a dyddiadau a drefnwyd ar gyfer cyfarfodydd arfarnu. Statws y feddyginiaeth fydd 'Ar y gweill' nes bod ein proses arfarnu wedi’i chwblhau a’n bod wedi cyhoeddi ein hargymhelliad. Ni fydd eich Ffurflen A a Ffurflen B byth yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Pecyn cyflwyno ffurflen B

Form B (Word, 342Kb) (Saesneg yn unig)
 
 
Dilynwch AWTTC: