Neidio i'r prif gynnwy

Cadarnhad gan Lywodraeth Cymru

Pam?

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhelliad AWMSG ac yn cynghori a ddylid sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer defnyddio'r feddyginiaeth hon o fewn GIG Cymru. 

Pryd?

Ni ellir rhoi amserlen benodol ond y gobaith yw y bydd yn derbyn cadarnhad o fewn dwy wythnos wedi i Lywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad AWMSG.

Sut?

Cyhoeddir Argymhelliad Arfarnu Terfynol (FAR) ar ein gwefan a dosbarthir gwybodaeth am gadarnhad Llywodraeth Cymru o’r argymhelliad drwy e-bost i GIG Cymru.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Os bydd AWMSG yn argymell meddyginiaeth ar gyfer ei defnyddio (neu’n ei hargymell fel opsiwn ar gyfer ei defnyddio) a bod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau hyn, mae’n rhaid i’r byrddau iechyd yng Nghymru wneud yn siŵr bod y feddyginiaeth ar gael cyn gynted ag sy’n ymarferol resymol ac o fewn dau fis i’r argymhelliad yn cael ei gyhoeddi, yn unol â chyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru .

Rydym yn adolygu holl argymhellion AWMSG a wnaed wedi 1 Hydref 2011 bob tair blynedd neu pan fydd gwybodaeth newydd arwyddocaol ar gael neu os bydd NICE yn cynhyrchu unrhyw gyhoeddiadau perthnasol. Gall argymhellion hefyd gael eu hadolygu os yw’r effaith wirioneddol ar gyllideb yn sylweddol wahanol i’r hyn a ragfynegwyd yn y cyflwyniad.

Ar gyfer argymhellion negyddol neu gyfyngedig, gall cwmnïau sy’n gwneud cais ailgyflwyno i ni ar unrhyw adeg gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol neu newydd arwyddocaol.

Beth sy'n mynd ar wefan AWTTC pan fydd y broses wedi'i chwblhau?

Caiff rhestriad eich meddyginiaeth ei ddiweddaru ar ôl ei gadarnhau gyda’i statws newydd: argymell, argymell gyda chyfyngiadau, neu dim argymell. Caiff dolenni i Adroddiad Asesiad Ysgrifenyddiaeth AWMSG (ASAR) a’r Argymhelliad Arfarnu Terfynol (FAR) hefyd eu cynnwys.

Dilynwch AWTTC: