Neidio i'r prif gynnwy

Polisi arfarnu ar gyfer meddyginiaethau a ddatblygwyd i drin cyflyrau difrifol

Mae AWTTC wedi adolygu dulliau a phrosesau ei asesiad technoleg iechyd. Ym mis Mai 2023, fe wnaethom roi argymhellion yr adolygiad ar waith a chyflwyno addasydd difrifoldeb. Nod yr addasydd difrifoldeb yw adlewyrchu gwerthoedd cymdeithasol a dewisiadau yn fwy cywir yn ein prosesau gwneud penderfyniadau.

Bydd y Grŵp Meddyginiaethau Newydd a’r AWMSG yn ystyried meini prawf ychwanegol wrth arfarnu meddyginiaethau a ddatblygwyd i drin cyflyrau difrifol, er mwyn asesu difrifoldeb y cyflwr sy’n cael ei drin. Cynhelir yr asesiad hwn ar gyfer meddyginiaethau sy'n cynnig gwelliannau o ran ansawdd bywyd a/neu oroesiad.

Mae'r broses arfarnu ar gyfer meddyginiaethau i drin clefydau prin yn cyd-fynd â phroses arfarnu AWMSG ar gyfer pob meddyginiaeth arall. Dylai cwmnïau sy'n ymgeisio nodi yn eu cyflwyniad arfarnu a ydynt yn meddwl y bydd yr addasydd difrifoldeb yn berthnasol. Wrth arfarnu'r feddyginiaeth, AWMSG sydd â'r penderfyniad terfynol ynghylch cymhwyso'r addasydd difrifoldeb.

Dogfennau

Dilynwch AWTTC: