Neidio i'r prif gynnwy

Peidio â chyflwyno

Os na fyddwn yn derbyn eich Ffurflen B neu Ffurflen C o fewn tri mis i feddyginiaeth yn derbyn awdurdodiad marchnata, byddwn yn cyhoeddi Datganiad Cyngor. Bydd hwn yn cadarnhau na ellir cefnogi’r feddyginiaeth ar gyfer ei defnyddio o fewn GIG Cymru.

Mae’n annhebygol y bydd meddyginiaeth sy’n dod o fewn ein meini prawf arfarnu yn cael ei ariannu yn GIG Cymru cyn ein bod wedi ei harfarnu.

A fydd y Datganiad Cyngor yn cael ei gyhoeddi ar wefan AWTTC?

Bydd. Bydd eich meddyginiaeth yn cael ei rhestru ar y wefan hon ynghyd â’r Datganiad Cyngor. Unwaith y byddwn yn derbyn eich Ffurflen B neu Ffurflen C, byddwn yn tynnu’r Datganiad Cyngor oddi ar ein gwefan.

A fyddech cystal â nodi os yw’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer y feddyginiaeth yn ddiweddarach ar gyfer yr un dynodiad, yna byddwn yn diweddaru ein Datganiad Cyngor.

Dilynwch AWTTC: