Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau rhagnodi

Deunydd i gefnogi presgripsiynu'n briodol gyffuriau hypnoteg a lleihau gorbryder ledled Cymru
21/07/21

Nod y pecyn addysgol hwn yw cefnogi presgripsiynu priodol cyffuriau hypnoteg a lleihau gorbryder ledled Cymru drwy roi dull ymarferol i weithwyr iechyd proffesiynol allweddol ddechrau ac adolygu presgripsiynu cyffuriau hypnoteg a lleihau gorbryder.

Adolygiad Safonau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Meddyginiaeth
02/06/21

Datblygwyd Safonau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Adolygu Meddyginiaethau er mwyn rhoi dull strwythuredig ar gyfer adolygu meddyginiaethau ac maent yn feincnodau ar gyfer ansawdd, gyda’r nod o optimeiddio diogelwch cleifion ac arfer presgripsiynu.

Rheolaeth glinigol gychwynnol o ysmygwyr sy'n oedolion mewn gofal eilaidd
02/06/21

Nod y ddogfen hon yw hysbysu ac arwain staff gofal iechyd yn GIG Cymru ynglŷn â sut i ddechrau therapi disodli nicotin (NRT) er mwyn rheoli ddiddyfnu nicotin ymhlith oedolion sy’n ysmygu ac sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty (gofal eilaidd).

Canllawiau presgripsiynu a monitro gofal a rennir
24/02/21

Mae'r ddogfen hon yn diweddaru egwyddorion arfer gorau ar gyfer cytundebau presgripsiynu gofal a rennir.

Dogfen atgoffa am arfer gorau: Peidiwch â defnyddio nitrofurantoin i drin pyeloneffritis
24/02/21

Mae’r ddogfen ‘Atgoffa am Arfer Gorau’ fer hon wedi’i datblygu i hysbysu presgripsiynwyr gofal sylfaenol ynglŷn â pheidio â phresgripsiynu nitrofurantoin ar gyfer cleifion yr amheuir fod ganddynt pyeloneffritis, y sail resymegol am hyn a beth ellid eu bresgripsiynu yn ei le.

Diogelu defnyddwyr clytiau opioid trwy safoni cwnsela cleifion a rhoddwyr gofal
22/12/20

Nod y rhestr wirio cwnsela yw cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sy'n gweithio mewn fferyllfeydd cymunedol, gofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn y gwaith hollbwysig o gwnsela cleifion ar ddefnydd diogel ac effeithiol clytiau opioid.

Holl Ganllaw Cymru ar gyfer Byrddau / Ymddiriedolaethau Iechyd a Darparwyr Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â Meddyginiaethau a Gweithwyr Cymorth Gofal
19/06/20

Bwriad y canllaw hwn yw rhoi gwybodaeth i reolwyr, unigolion cyfrifol, nyrsys cofrestredig a gweithwyr cymorth gofal mewn sefydliadau Cymru ar sut a phryd y gall nyrs gofrestredig ddirprwyo'r dasg o gymorth meddyginiaethau i weithiwr cymorth gofal, a'r safonau addysg a hyfforddiant angenrheidiol, a pholisïau a gweithdrefnau sy'n ofynnol i hwyluso hyn.

Canllaw i bresgripsiynu cynhyrchion heb glwten
30/11/18

Mae cynhyrchion heb glwten yn rhan hanfodol o’r driniaeth glinigol ar gyfer clefyd seliag. Nod Canllaw Cymru Gyfan i Bresgripsiynu Cynhyrchion Heb Glwten yw cefnogi meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i reoli cleifion sydd â chlefyd seliag, a chynorthwyo'r broses gwneud penderfyniadau mewn perthynas â phresgripsiynu bwydydd heb glwten cymeradwyedig Pwyllgor Cynghori ar Sylweddau Ffiniol (ACBS).

Defnydd diogel o atalyddion pwmp proton
28/02/18

Nod y ddogfen hon yw tynnu sylw at, a helpu i fynd i'r afael â'r materion diogelwch cleifion sy'n gysylltiedig â defnydd hirdymor atalyddion pwmp proton (PPIs) ymhlith oedolion.

Ffarmacotherapi ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu
15/02/18

Mae'r canllaw hwn yn cefnogi presgripsiynu a chyflenwi priodol ffarmacotherapi rhoi'r gorau i ysmygu yn GIG Cymru ar gyfer ysmygwyr sy'n cael eu cymell i roi'r gorau iddi.

Polisi cysoni meddyginiaethau amlddisgyblaethol
30/06/17

Datblygwyd y ddogfen bolisi hon i roi gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i hyrwyddo cysoni meddyginiaethau yn ddiogel ac yn amserol ac mae'n rhoi arweiniad ar gwblhau'r broses.

Clefyd cronig yr arennau
15/02/17

Mae'r adnodd rheoli meddyginiaethau CKD hwn yn cynnwys gwybodaeth ategol i dimau gofal sylfaenol ynglŷn â materion clinigol, cyfeiriadau at adnoddau defnyddiol pellach ac mae'n cynnwys set sleidiau addysgol.

Canllawiau syndrom llygad sych
15/12/16

Nod y canllaw hwn yw darparu gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i hysbysu cleifion yn well ar sut i reoli syndrom llygad sych gan ddefnyddio hylendid amrant da.

Fitaminau ar gyfer babanod, plant, a menywod beichiog a rhai sy'n bwydo ar y fron
30/11/16

Diben y canllaw hwn yw codi ymwybyddiaeth o'r argymhellion ar atchwanegiad fitaminau fel mater o drefn ar gyfer babanod, plant, a menywod beichiog a rhai sy’n bwydo ar y fron, gan gynnwys fitamin D.

Rhagnodi Heparin Pwysau Moleciwlaidd Isel yng Nghymru
30/09/16

Nod y ddogfen hon yw sicrhau bod pob claf yn derbyn gwrthgeulyddiad priodol mewn modd amserol ac i fynd i'r afael â phryderon rhagnodwyr sy'n ymwneud â rhagnodi LMWH yn ddiogel.

Presgripsiynu amiodarone ar gyfer ffibriliad atrïaidd a dirgryniad atrïaidd yng Nghymru
15/09/16

Mae clinigwyr gofal sylfaenol ac eilaidd wedi cydnabod y byddai'n fuddiol adolygu'r holl gleifion sy'n cymryd amiodarone yng Nghymru i sefydlu'r angen am driniaeth barhaus. Mae'r ddogfennaeth amgaeedig wedi'i datblygu i gynorthwyo'r broses hon.

Canllawiau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth rhwng sefydliadau'r GIG, contractwyr gofal sylfaenol, y diwydiant fferyllol a'r sector masnachol cysylltiedig yng Nghymru
01/09/16

Nod y canllaw hwn yw annog dull agored a thryloyw o weithio mewn partneriaeth rhwng GIG Cymru, contractwyr gofal sylfaenol, y diwydiant fferyllol a'r sector masnachol cysylltiedig.

Canllawiau ar broffylacsis gwrthficrobaidd yn ymwneud â Thoriad Cesaraidd
30/09/15

Nod y ddogfen hon yw rhoi arweiniad ynglŷn ag amseriad a'r math o broffylacsis gwrthficrobaidd y dylid ei gynnig i fenywod sy'n cael Toriad Cesaraidd yng Nghymru.

Canllawiau i gefnogi defnyddio therapi bisffosffonad drwy'r geg hirdymor yn ddiogel
16/09/15

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu strategaeth Cymru Gyfan i addasu'r risg hon drwy ailasesu cleifion ac ystyried 'gwyliau cyffuriau'.

Llawlyfr ar gyfer gwasanaethau gofal cartref yng Nghymru
30/09/14

Mae'r Llawlyfr hwn ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cartref yng Nghymru wedi'i addasu o'r Llawlyfr ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cartref yn Lloegr, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) ym mis Mai 2014.

Dilynwch AWTTC: