Neidio i'r prif gynnwy

Safonau cenedlaethol Cymru ar gyfer adolygu meddyginiaethau

Datblygwyd Safonau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Adolygu Meddyginiaethau er mwyn rhoi dull strwythuredig ar gyfer adolygu meddyginiaethau ac maent yn feincnodau ar gyfer ansawdd, gyda’r nod o optimeiddio diogelwch cleifion ac arfer presgripsiynu. Rhagwelir y bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cynnal adolygiadau meddygol yn gweithio tuag at gyflawni’r safonau, a bydd y rhestr o’r gweithgareddau cysylltiedig a gynhwysir yn cynorthwyo adolygwyr i’w cyflawni.

Wrth gymeradwyo’r safonau fe wnaeth AWMSG gydnabod y pwysau aruthrol sydd ar GIG Cymru ar hyn o bryd, ac awgrymodd gynnal rhaglen beilot o’r safonau er mwyn canfod unrhyw rwystrau a allai atal y safonau rhag cael eu cyflawni. Os hoffech gymryd rhan mewn rhaglen beilot naill ai nawr, neu yn y dyfodol, cysylltwch ag awttc@wales.nhs.uk .

Welsh National Standards for Medication Review (Saesneg yn unig) 558KB (PDF)
Welsh National Standards for Medication Review - Brief Guide (Saesneg yn unig) 224KB (PDF)

(Cyhoeddwyd Ionawr 2021 [Diweddarwyd Mehefin 2021])

Dilynwch AWTTC: