Nod y canllawiau hyn yw darparu dull syml, effeithiol, darbodus ac empirig ar gyfer trin heintiau cyffredin; er mwyn lleihau ymddangosiad ymwrthedd bacterol yn y gymuned.
Diben y ddogfen hon yw darparu canllawiau ar gyfer gwella rheolaeth meddyginiaethau ‘arbennig’ didrwydded ac all-drwydded ym mhob sector gofal iechyd yn GIG Cymru. Mae’r canllawiau hyn yn cwmpasu gofal sylfaenol (ymarfer cyffredinol a fferylliaeth gymunedol), gofal eilaidd, a chleifion a gofalwyr.
Nod yr adnoddau hyn yw cefnogi'r gwaith o ragnodi meddyginiaethau a ddefnyddir yn GIG Cymru i reoli poen. Mae'r adnoddau'n cynnwys dogfen ganllaw stiwardiaeth analgesig, a dogfennau sy'n cynghori ar reoli poen yn ffarmacolegol. Mae'r adnoddau hyn yn diweddaru ac yn disodli'r eitemau a restrwyd yn flaenorol ar ein gwefan fel 'Adnoddau Poen Parhaus'.
Mae’r adnodd hwn wedi’i greu i helpu i gefnogi optimeiddio meddyginiaethau mewn cleifion hŷn a allai fod yn cael presgripsiynau amlgyffuriaeth amhriodol.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran bwlch rhwng presgripsiynau, ac yn nodi cyfres o argymhellion ar gynyddu bwlch rhwng presgripsiynau lle bo’n briodol.
Nod y dogfennau hyn yw lleihau presgripsiynu meddyginiaethau sy'n cynnig budd clinigol cyfyngedig i gleifion a lle gallai fod triniaethau mwy cost-effeithiol ar gael.
Mae’r adnoddau addysgiadol hyn yn anelu at gefnogi’r broses o bresgripsiynu tramadol yn GIG Cymru, yng nghyd-destun cymhleth rheoli poen.
Mae’r canllaw hwn wedi’i anelu at yr holl staff meddygol, nyrsio a fferylliaeth cymunedol ac anarbenigol sy’n ymwneud â phresgripsiynu a rheoli heintiau’r llwybr wrinol (UTI) rheolaidd. Mae’r canllaw hwn wedi’i fwriadu ar gyfer menywod nad ydynt yn feichiog, heb gathetr, 16 oed a hŷn.
Nod Pecyn Cymorth Optimeiddio Meddyginiaethau Cartrefi Gofal yw dod â chyfres o ddogfennau canllaw, offer ac adnoddau defnyddiol at ei gilydd ar gyfer staff cartrefi gofal a thimau fferyllol sy’n rhoi cyngor a chymorth i gartrefi gofal.
Mae’r canllaw hwn yn darparu strategaeth gwrthficrobaidd hygyrch, seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheoli haint Clostridioides difficile (CDI) ymhlith oedolion.
Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar drin cleifion sydd â ffibriliad atrïaidd anfalfaidd (NVAF) ac mae’n cynnwys offeryn asesu risg/budd, a chrynodeb un dudalen ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd Cymru sy’n dewis gwrthgeulydd drwy’r geg uniongyrchol ar gyfer y boblogaeth cleifion hon.
Nod y canllaw hwn yw lleihau amrywiaeth wrth bresgripsiynu anadlyddion i reoli clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac annog ystyriaeth o agenda datgarboneiddio GIG Cymru.
Nod y canllaw hwn yw lleihau amrywiaeth wrth bresgripsiynu anadlyddion i reoli asthma ymhlith oedolion, ac annog ystyriaeth o agenda datgarboneiddio GIG Cymru.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllaw i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ynglŷn â hyd presgripsiynu, bwydydd, meddyginiaethau cyflenwol a therapïau amgen, anhwylderau cyffredin, triniaeth ffrwythlondeb, diffyg ymgodol, presgripsiynu ar gyfer yr hunan a'r teulu, ymwelwyr o dramor, brechlynnau teithio ac iechyd galwedigaethol, sefyllfaoedd presgripsiynu nad ydynt yn dod o dan y GIG, yn cynnwys gofal preifat a phresgripsiynau preifat, meddyginiaethau didrwydded a phresgripsiynu y tu allan i ganllawiau cenedlaethol.
Mae’r canllaw hwn wedi’i ddatblygu er mwyn helpu i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i bresgripsiynu atalyddion SGLT-2 ymhlith cleifion sydd â diabetes mellitus math 2 a chlefyd cardiofasgwlaidd.
Nod y pecyn addysgol hwn yw cefnogi presgripsiynu priodol cyffuriau hypnoteg a lleihau gorbryder ledled Cymru drwy roi dull ymarferol i weithwyr iechyd proffesiynol allweddol ddechrau ac adolygu presgripsiynu cyffuriau hypnoteg a lleihau gorbryder.
Datblygwyd Safonau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Adolygu Meddyginiaethau er mwyn rhoi dull strwythuredig ar gyfer adolygu meddyginiaethau ac maent yn feincnodau ar gyfer ansawdd, gyda’r nod o optimeiddio diogelwch cleifion ac arfer presgripsiynu.
Nod y ddogfen hon yw hysbysu ac arwain staff gofal iechyd yn GIG Cymru ynglŷn â sut i ddechrau therapi disodli nicotin (NRT) er mwyn rheoli ddiddyfnu nicotin ymhlith oedolion sy’n ysmygu ac sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty (gofal eilaidd).
Mae'r ddogfen hon yn diweddaru egwyddorion arfer gorau ar gyfer cytundebau presgripsiynu gofal a rennir.
Mae’r ddogfen ‘Atgoffa am Arfer Gorau’ fer hon wedi’i datblygu i hysbysu presgripsiynwyr gofal sylfaenol ynglŷn â pheidio â phresgripsiynu nitrofurantoin ar gyfer cleifion yr amheuir fod ganddynt pyeloneffritis, y sail resymegol am hyn a beth ellid eu bresgripsiynu yn ei le.