Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau rheoli a phresgripsiynu asthma pediatrig Cymru gyfan

Mae Canllawiau Rheoli a Phresgripsiynu Asthma Pediatrig Cymru Gyfan wedi cael eu datblygu fel rhan o ddull integredig o safoni gofal ledled Cymru ar gyfer plant â chlefyd anadlol. Cyflawnwyd hyn drwy waith ar y cyd rhwng Rhwydwaith Anadlol Pediatrig Cymru, gyda chynrychiolwyr o bob ysbyty yng Nghymru, a’r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Anadlol (RHIG).

Mae asthma pediatrig yn wahanol i asthma oedolion o ran achoseg a diagnosis gwahaniaethol. Mae gwahanol oedrannau yn gofyn ystyriaethau gwahanol o ran triniaeth. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r llwybr i gleifion yng Nghymru, yn benodol o ran yr opsiynau rheoli ar gyfer pob lleoliad gofal iechyd, trothwyon atgyfeirio, a dewisiadau meddyginiaeth cenedlaethol. Mae’n ddogfen ar gyfer dull cenedlaethol, safonol, mwy diogel a chynaliadwy o ofalu am asthma ymhlith plant.

Mae’r ddogfen yn seiliedig ar argymhellion gan The British Thoracic Society a’r Scottish Intercollegiate British Guideline ar reoli asthma (2019), Canllaw NICE NG80, a’r Global Initiative for Asthma (GINA): Canllawiau rheoli ac atal asthma (2022).

⇩ All Wales Paediatric Asthma Management and Prescribing Guidelines (Saesneg yn unig) 1.7MB (PDF)

(Mehefin 2023)

Ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA).

Dilynwch AWTTC: