Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau addysgiadol tramadol - adolygiad 2021

Datblygwyd yr adnoddau hyn yn gyntaf yn 2013 mewn ymateb i gais gan Lywodraeth Cymru. Mae’r diweddariad hwn wedi adolygu’r sylfaen dystiolaeth gyfredol ac wedi diwygio’r wybodaeth yn yr adnoddau o fewn cyd-destun ehangach rheoli poen. Gwnaeth ein hadolygiad diweddaraf o’r adnoddau hyn amlygu’r angen am broses briodol a pharhaus o bresgripsiynu a monitro tramadol, yn ogystal â meddyginiaethau opioid eraill, yn GIG Cymru.

Bu gostyngiad cynyddol yn y broses o bresgripsiynu tramadol yng Nghymru ers cyflwyno’r adnoddau hyn, y Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol, a deddfwriaeth ar ailddosbarthu tramadol yn 2014. Fodd bynnag, mae angen o hyd i hyrwyddo presgripsiynu priodol yng nghyd-destun ehangach meddyginiaethau opioid a ddefnyddir yng  Nghymru, ac wrth drin cyflyrau poen cronig yn gyffredinol. Ers cyhoeddi’r adnoddau yn gyntaf mae’r sylfaen dystiolaeth wedi cynyddu i argymell nad yw meddyginiaethau opioid yn briodol ar gyfer poen cronig nad yw’n ymwneud â chanser.

Tramadol educational resources - review 2021 (Saesneg yn unig) 681KB (PDF)
Tramadol - patient information leaflet (Saesneg yn unig) 166KB (PDF)

Adrannau tynnu allan (MS Word)- Saesneg yn unig

(Cyhoeddwyd: Medi 2021)

Taflenni gwybodaeth i gleifion

Mae'r taflenni gwybodaeth i gleifion hyn am tramadol yn darparu ffeithiau allweddol i gleifion sy'n cymryd yr opioid lleddfu poen tramadol. Maent yn cynnwys: cyngor ar ddefnydd diogel, sgil-effeithiau posibl, a meddyginiaethau a chyffuriau eraill i'w hosgoi wrth gymryd tramadol. Mae'r taflenni'n cefnogi'r adnoddau addysgol ar tramadol sydd wedi'u diweddaru, a gymeradwywyd gan AWMSG yn 2021, ac yn cymryd lle ein Taflen Wybodaeth i Gleifion am Tramadol a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Cyflwynir y taflenni mewn tri fformat (A, B a C), y mae gan bob un fersiwn Cymraeg a Saesneg. Mae Fformat A yn defnyddio arddull mwy traddodiadol; mae fformat B ychydig yn fyrrach ac mae ganddo gyflwyniad mwy gweledol; ac mae fformat C mewn fformat Hawdd ei Ddeall..

Tramadol - Taflen wybodaeth i gleifion - Fformat A (Saesneg) - 62KB (PDF)
Tramadol - Taflen wybodaeth i gleifion - Fformat A (Cymraeg) - 87KB (PDF)
Tramadol - Taflen wybodaeth i gleifion - Fformat B (Saesneg) - 207KB (PDF)
Tramadol - Taflen wybodaeth i gleifion - Fformat B (Cymraeg) - 232KB (PDF)
Tramadol - Taflen wybodaeth i gleifion - Fformat C Hawdd ei Ddeall (Saesneg) - 1.5MB (PDF)
Tramadol - Taflen wybodaeth i gleifion - Fformat C Hawdd ei Ddeall (Cymraeg) - 1.4MB (PDF)

(Taflenni gwybodaeth i gleifion a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022, ychwanegwyd Hawdd ei Ddeall ym mis Gorffennaf 2023)

Dilynwch AWTTC: