Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau rheoli a phresgripsiynu asthma oedolion Cymru Gyfan

Rydym eisiau eich adborth!

Fel rhan o adolygiad ehangach o'r ‘Fframwaith Optimeiddio Meddyginiaethau’, rydym yn chwilio am adborth ar ystod o'n hadnoddau optimeiddio meddyginiaethau a gymeradwywyd gan AWMSG. Cwblhewch ein harolwg byr a rhannwch eich adborth ar yr adnodd 'Canllawiau rheoli a phresgripsiynu asthma oedolion Cymru Gyfan’.

Gallwch gael mynediad at yr arolwg yma (Saesneg yn unig)

Nod y canllaw hwn, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Awst 2020, yw lleihau amrywiaeth mewn presgripsiynau anadlyddion wrth reoli asthma oedolion. Ers ei gyhoeddi’n wreiddiol, mae'r canllaw wedi cael ei ddiweddaru sawl gwaith: i annog ystyried agenda datgarboneiddio GIG Cymru; i gyflwyno dull rheoli newydd a ffefrir ar gyfer asthma ysgafn; ac, yn 2025, cafodd ei ddiweddaru i adlewyrchu canllawiau asthma NICE oedd wedi eu cyhoeddi (NG254) (Tachwedd 2024).

Mae angen rheoli cleifion ag asthma yn ôl difrifoldeb eu clefyd. Dylai pob claf ag asthma gael ei drin â corticosteroid wedi'i anadlu ac mae'r arfer o ddefnyddio monotherapi broncoledydd gweithrediad byr bellach wedi dyddio.

Mae'r canllawiau cyfredol yn hyrwyddo'r defnydd o therapi lleddfu gwrthlidiol neu reolaeth therapi cynnal a lleddfu ar gyfer pob claf ag asthma. Dangoswyd bod y dull hwn yn lleihau'r risg o waethygu asthma a gorfod cael gofal iechyd heb ei drefnu.

 Ymysg y rhai sydd â symptomau wedi'u rheoli'n dda, mae rheolaeth briodol yn cynnwys lleihau eu therapi. O ystyried y dystiolaeth sy'n cysylltu defnydd uchel o steroidau anadlu ag effeithiau niweidiol a allai fod yn ddifrifol, yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu ymdrech ar y cyd i gynyddu diogelwch cleifion a lleihau'r dos o corticosteroidau wedi’u hanadlu a ddefnyddir gan gleifion yn ddyddiol i reoli asthma.

All Wales Adult Asthma Management and Prescribing Guideline 7,118KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Chwefror 2024, diweddarwyd Awst 2025)

Ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA)

 

Dilynwch AWTTC: