Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau rheoli a phresgripsiynu COPD Cymru Gyfan

Wedi'i gyhoeddi'n wreiddiol ym mis Mai 2019, nod y canllaw hwn yw lleihau amrywiaeth wrth bresgripsiynu anadlyddion i reoli clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).

Yn 2021, cafodd y canllaw hwn ei ddiweddaru i annog pobl i ystyried agenda datgarboneiddio GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr argymhelliad y rhoddir blaenoriaeth i bresgripsiynu Anadlyddion Powdr Sych (DPIs) yn hytrach nag Anadlyddion Dos Mesuredig (MDIs) o ganlyniad i’w heffaith sylweddol lai ar yr amgylchedd. Mae hyn wedi’i alinio ȃ tharged GIG Cymru o leihau’r defnydd o MDIs o dros 70% i lai na 20% erbyn 2025 (gweler Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru). Lle bo’n briodol, mae anadlyddion newydd sydd ar gael wedi’u hymgorffori hefyd.

⇩ All Wales COPD Management and Prescribing Guideline 773KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Rhagfyr 2021, diweddarywd Tachwedd 2023)

Dilynwch AWTTC: