Neidio i'r prif gynnwy

Polisi cysoni meddyginiaethau amlddisgyblaethol (Wedi ymddeol)

Mae cysoni meddyginiaethau pan drosglwyddir cleifion rhwng lleoliadau gofal yn lleihau'r perygl y bydd cleifion yn cael niwed gan eu meddyginiaeth. Mae hyn yn gyfrifoldeb i’r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â rheoli meddyginiaeth y claf. Datblygwyd y ddogfen bolisi hon i roi gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i hyrwyddo cysoni meddyginiaethau yn ddiogel ac yn amserol ac mae'n rhoi arweiniad ar gwblhau'r broses.

Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG.

Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Chwefror 2025. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl.

Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio a gan fod canllawiau amgen addas eraill ar gael (e.e. QS210 Optimeiddio Meddyginiaethau (NICE) a Cysoni Meddyginiaethau (y Comisiwn Ansawdd Gofal)), roedd aelodau AWPAG o’r farn mai’r peth mwyaf priodol oedd i’r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd.

Os ydych yn credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch ag AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk.

⇩ All Wales Multidisciplinary Medicines Reconciliation Policy 1.3 MB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Mehefin 2017, Wedi ymddeol Mehefin 2025)

Dilynwch AWTTC: