Mae’r canllaw hwn wedi’i ddatblygu er mwyn helpu i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i bresgripsiynu atalyddion SGLT-2 ymhlith cleifion sydd â diabetes mellitus math 2 a chlefyd cardiofasgwlaidd. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o’r dystiolaeth ynghylch y defnydd o atalyddion SGLT-2 gyda diabetes mellitus math 2 mewn perthynas â chanlyniadau cardiofasgwlaidd ac arennol, gan amlinellu argymhellion presgripsiynu o ran rôl atalyddion SGLT-2 ymhlith y cleifion hyn, ac yn cynnwys crynodeb un dudalen o’r dystiolaeth ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd yng Nghymru sy’n dewis atalyddion SGLT-2.
|
Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG. Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Mawrth 2026. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl. Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio ac oherwydd bod sefydliadau eraill y DU yn cynnig arweiniad amgen addas (e.e. NICE), roedd aelodau AWPAG o'r farn ei bod yn fwy priodol i'r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd. Os ydych chi'n credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch â AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk. |
⇩ All Wales advice on sodium-glucose cotransporter-2 (SGLT-2) inhibitors in type 2 diabetes and cardiovascular disease (Saesneg yn unig) 1.5MB (PDF) |
Cyhoeddwyd ym mis Medi 2021
Wedi ymddeol Mehefin 2026
Mae crynodeb tystiolaeth un dudalen ar wahân ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd hefyd ar gael (Saesneg yn unig):