Sylwch (Awst 2024) Mae AWTTC yn ymwybodol bod ‘Canllaw Cymru i Bresgripsiynu Cynhyrchion Heb Glwten’ wedi dyddio. Mae AWTTC hefyd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adolygu’r model cyflenwi ar gyfer cynhyrchion heb glwten, felly nid oes unrhyw gynlluniau i ddiweddaru’r adnodd hwn nes bod yr adolygiad hwnnw wedi’i gwblhau. Fodd bynnag, mae’r rhestrau diweddaraf o ‘Gynhyrchion Presgripsiynadwy’ i’w gweld ar wefan Coeliac UK. Mae fersiwn mis Ionawr 2024 o’r rhestr i’w gweld yma (sylwer: bydd y ddolen hon yn dechrau lawrlwytho’r PDF). |
Mae cynhyrchion heb glwten yn rhan hanfodol o’r driniaeth glinigol ar gyfer clefyd seliag. Nod Canllaw Cymru Gyfan i Bresgripsiynu Cynhyrchion Heb Glwten yw cefnogi meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i reoli cleifion sydd â chlefyd seliag, a chynorthwyo'r broses gwneud penderfyniadau mewn perthynas â phresgripsiynu bwydydd heb glwten cymeradwyedig Pwyllgor Cynghori ar Sylweddau Ffiniol (ACBS).
⇩ All Wales Guide to Prescribing Gluten-free Products 335KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Chwefror 2013 - Diweddarwyd Tachwedd 2018)
Dogfennau cysylltiedig :