Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu defnyddwyr clytiau opioid trwy safoni cwnsela cleifion a rhoddwyr gofal (Wedi ymddeol)

Nod y rhestr wirio cwnsela yw cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sy'n gweithio mewn fferyllfeydd cymunedol, gofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn y gwaith hollbwysig o gwnsela cleifion ar ddefnydd diogel ac effeithiol clytiau opioid. Bydd cynnwys rhestr wirio i gleifion/gofalwyr gyfeirio ati yn dilyn cwnsela hefyd yn annog defnydd diogel ar glytiau opioid.

Mae'r adnoddau hyn wedi'u diweddaru i gynnwys diweddariadau diogelwch cyffuriau’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a gyhoeddwyd ym mis Medi 2020: Patshys fentanyl ar gyfer poen nad yw'n ganser: peidiwch â'u defnyddio mewn cleifion opioid-naïf ac Opioidau: risg o ddibyniaeth a chaethineb.

Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG.

Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Chwefror 2025. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl.

Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio a gan fod canllawiau amgen addas eraill ar gael (e.e. Canllawiau Rheoli Ffarmacolegol Poen Cymru Gyfan AWMSG (AWMSG) a Patshys fentanyl trawsdermal ar gyfer poen nad yw'n ganser (MHRA)), roedd aelodau AWPAG o’r farn mai’r peth mwyaf priodol oedd i’r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd.

Os ydych yn credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch ag AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk.

⇩ Safeguarding Users of Opioid Patches by Standardising Patient and Caregiver Counselling 1.5MB (PDF) (Saesneg yn unig)

Mae'r rhestr wirio cwnsela a thaflenni gwybodaeth i gleifion (Cymraeg a Saesneg) hefyd ar gael isod fel dogfennau ar wahân.

⇩ Opioid Patch Safety - Counselling Checklist 49KB (PDF) (Saesneg yn unig)
⇩ Gwybodaeth Am Glytiau Opioid Er Mwyn Cadw Cleifion Yn Ddiogel 89KB (PDF)
⇩ Opioid Patch Information to Keep Patients Safe 127KB (PDF)

(Medi 2016, wedi ymddeol Mehefin 2025)

Dilynwch AWTTC: