Neidio i'r prif gynnwy

Fitaminau ar gyfer babanod, plant, a menywod beichiog a rhai sy'n bwydo ar y fron (Wedi ymddeol)

Diben y canllaw hwn yw codi ymwybyddiaeth o'r argymhellion ar atchwanegiad fitaminau fel mater o drefn ar gyfer babanod, plant, a menywod beichiog a rhai sy’n bwydo ar y fron, gan gynnwys fitamin D. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r cynllun Cychwyn Iach, sy'n cefnogi teuluoedd ar incwm isel. Mae hefyd yn rhoi arweiniad ar gyfer y rheini nad ydynt yn fuddiolwyr.

Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG.

Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Chwefror 2025. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl.

Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio a gan fod canllawiau amgen addas eraill ar gael (e.e. NG247 Maeth mamau a phlant (NICE)), roedd aelodau AWPAG o'r farn mai’r peth mwyaf priodol oedd i’r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd.

Os ydych yn credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch ag AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk.

⇩ Vitamins for Babies, Children, and Pregnant and Breastfeeding Women 1.9MB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Tachwedd 2016, Wedi ymddeol Mehefin2025)

Dilynwch AWTTC: