Neidio i'r prif gynnwy

Eitemau a nodir fel gwerth isel ar gyfer presgripsiynu yn GIG Cymru

Nod y dogfennau hyn yw lleihau presgripsiynu meddyginiaethau sy'n cynnig budd clinigol cyfyngedig i gleifion a lle gallai fod triniaethau mwy cost-effeithiol ar gael.

Papur 1

Mae pum meddyginiaeth/grŵp meddyginiaethau wedi'u nodi at ddibenion y ddogfen hon: co-proxamol, plasteri lidocên, cymysgeddau tadalafil unwaith y dydd, tabledi rhyddhau wedi'u haddasu liothyronine a doxazosin.

⇩ Medicines identified as Low Priority for Funding in NHS Wales — Paper 1 704KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Cyhoeddwyd Hydref 2017 [Diweddarwyd yr adran ar liothyronine ac ychwanegwyd yr atodiad ym mis Tachwedd 2019])

Papur 2

Mae pedwar meddyginiaeth/grŵp meddyginiaethau wedi'u nodi at ddibenion y ddogfen hon: cyfansoddion asid brasterog omega-3, cynnyrch sy’n gyfuniad o ocsicodon a nalocson a, cynnyrch sy’n gyfuniad paracetamol a tramadol ac arginine perindopril.

⇩ Medicines identified as Low Priority for Funding in NHS Wales — Paper 2 578KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Cyhoeddwyd Rhagfyr 2018)

Papur 3

Dyma’r trydydd papur yn y fenter sy’n mynd rhagddi, oedd â’r teitl blaenorol Medicines identified as low priority for funding in NHS Wales.

Mae’r ddogfen Low value for prescribing wedi’i datblygu er mwyn rhoi gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i leihau presgripsiynu meddyginiaethau sy'n cynnig budd clinigol cyfyngedig i gleifion a lle gallai fod triniaethau mwy cost-effeithiol ar gael. Nodwyd naw eitem/grwpiau o eitemau at ddibenion y ddogfen hon. Y rhain yw:

  • Eitemau o effeithiolrwydd clinigol isel:
    • hydrad chloral (betaine cloral)
    • minocycline
    • probiotegau
    • rubefacients
    • dillad sidan
    • fitaminau a mwynau.
  • Eitemau lle mae dewisiadau amgen mwy cost-effeithiol ar gael:
    • alimemazine
    • aliskiren
    • stribedi profi glwcos yn y gwaed.
⇩ Items Identified as Low Value for Prescribing in NHS Wales — Paper 3 354KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Cyhoeddwyd Chwefror 2020 [Diweddarwyd Mawrth 2022])

Dilynwch AWTTC: