Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Cymru gyfan ar gyfer y bwlch rhwng presgripsiynau

Yn 2019, fel rhan o ymrwymiad a wnaed ynglŷn â’r cytundeb diwygio contractiol gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru (CPW), comisiynodd Llywodraeth Cymru Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) i gynnal adolygiad o symiau gweinyddu mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru, gyda’r diben o ystyried ymarferoldeb lleihau symiau presgripsiynau mewn gofal sylfaenol drwy wneud newidiadau ymarferol i drefniadau presgripsiynu a gweinyddu, gan gynnwys ystyried y bwlch rhwng presgripsiynau. Nod yr adolygiad hefyd oedd canfod a fyddai newidiadau o’r fath yn rhyddhau llawer o amser fferyllwyr i ddarparu gofal uniongyrchol i gleifion, a thrwy hynny gefnogi’r ystod gynyddol o wasanaethau clinigol y gellir eu cynnig gan fferyllwyr cymunedol. Ar ôl pwyso a mesur daeth yr adolygiad i’r casgliad y byddai o fudd i fferyllfeydd, meddygon teulu a chleifion pe bai’r bwlch rhwng presgripsiynau yn cael ei ymestyn.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran bwlch rhwng presgripsiynau, ac yn nodi cyfres o argymhellion ar gynyddu bwlch rhwng presgripsiynau lle bo’n briodol.

All Wales guidance for prescribing intervals (Saesneg yn unig) 293KB (PDF)

(Hydref 2022)

Ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA)

Dilynwch AWTTC: