Neidio i'r prif gynnwy

Aelodau lleyg

Aelodau o’r cyhoedd a all hefyd fod yn gleifion neu’n ofalwyr yw aelodau lleyg. Maent yn chwarae rhan allweddol mewn gwneud yn siŵr bod barn cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a’r cyhoedd yn gyffredinol yn helpu i lywio penderfyniadau am feddyginiaethau. Mae aelodau lleyg hefyd yn rhoi barn annibynnol ac yn amlygu’r hyn sy’n bwysig i gleifion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae AWTTC yn cefnogi 5 pwyllgor:

  • Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG)
  • Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG)
  • Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Bresgripsiynu (AWPAG)
  • Grŵp Cynghori Meddyginiaethau Cymru’n Un (OWMAG)
  • Grŵp Sicrhau Ansawdd ar gyfer Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR)

Gall aelodau’r pwyllgor gynnwys meddygon, fferyllwyr, nyrsys, economegydd iechyd, cynrychiolydd o’r diwydiant fferyllol, ac o leiaf un aelod lleyg (claf, gofalwr neu aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb).

Mae AWTTC hefyd yn gweithio gyda byrddau iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) i gefnogi’r gwaith o recriwtio aelodau lleyg i’w baneli IPFR.

Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod am bob pwyllgor a rôl eu haelodau lleyg:

Pwy all fod yn aelod lleyg?

Gall unrhyw un 18 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru wneud cais i ddod yn aelod lleyg. Mae rhai eithriadau, er enghraifft, ni all pobl a gyflogir ar hyn o bryd gan GIG Cymru fod yn aelodau lleyg. Nid oes angen cefndir ym maes iechyd ar ymgeiswyr i fod yn aelodau lleyg – mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eisoes wedi’u cynrychioli’n dda ar ein pwyllgorau. Nid oes angen unrhyw wybodaeth wyddonol, ymchwil nac economeg iechyd; Mae AWTTC yn rhoi hyfforddiant i aelodau lleyg yn y meysydd hyn. Mae angen i aelodau lleyg panel IPFR fyw yn ardal y bwrdd iechyd y maent yn ei gynrychioli.

Mae’r sgiliau a’r rhinweddau yr ydym yn chwilio amdanynt yn cynnwys:

  • deall y profiadau, yr anghenion a’r materion sy’n ymwneud â defnyddio meddyginiaethau a mynediad at feddyginiaethau sy’n bwysig i gleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol
  • y gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth, a darparu crynodeb o’r pwyntiau allweddol.
  • sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tîm da
  • meddwl agored a golwg gytbwys, gyda’r gallu i ofyn cwestiynau a meddwl yn ochrol ond yn parhau i ganolbwyntio ar y materion allweddol
  • y gallu i wrando a chymryd rhan mewn trafodaeth adeiladol, tra’n parchu barn pobl eraill
  • hyder i gyflwyno barn a phryderon cleifion a gofalwyr yn glir a gydag argyhoeddiad
  • parodrwydd i ystyried gwybodaeth gymhleth a gwneud penderfyniadau (rhai anodd weithiau) yn aml heb dystiolaeth bendant
  • ymroddiad, bod yn gydwybodol a dibynadwyedd

Beth mae’r rôl yn ei olygu?

Mae angen i’n holl aelodau lleyg:

  • fynychu o leiaf 80% o gyfarfodydd pwyllgor
  • cymryd rhan mewn trafodaethau mewn cyfarfodydd pwyllgor
  • darllen papurau’r pwyllgor cyn cyfarfod
  • rhoi sylwadau ar ddogfennau rhwng cyfarfodydd
  • cadw gwaith y pwyllgor yn gyfrinachol

Beth mae aelodau lleyg yn ei gael o’r rôl?

Dywed ein cyn aelodau lleyg ac aelodau lleyg presennol eu bod yn cael boddhad personol mawr o fod yn aelod lleyg. Maent yn mwynhau’r her a’r cyfrifoldeb o fod yn rhan o bwyllgor sy’n gwneud penderfyniadau pwysig ar feddyginiaethau i bobl Cymru.

Rydym yn cefnogi ein haelodau lleyg drwy gydol eu hamser gyda ni. Ar gyfer pob aelod lleyg ar bob un o’n pwyllgorau rydym yn cynnig:

  • unigolyn dynodedig ar gyfer cymorth
  • cyfnod ymsefydlu wrth gychwyn
  • hyfforddiant rheolaidd gan gynnwys diwrnod hyfforddiant blynyddol
  • treuliau (rhoddir honorariwm bach ar gyfer pwyllgorau sy’n gysylltiedig ag AWTTC)

Diddordeb? Sut i ddarganfod mwy

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych - cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o’r dulliau isod fel y gallwn ddweud mwy wrthych am y rôl a sut i wneud cais.

Dilynwch AWTTC: