Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae AWMSG ac AWTTC yn cefnogi cynaliadwyedd ar gyfer y GIG yng Nghymru

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) yn ddeddfwriaeth sy’n torri tir newydd gyda’r nod o sicrhau bod gan genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru o leiaf yr un ansawdd bywyd ag sydd gennym ar hyn o bryd. Mae gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) ddyletswydd gyfreithiol i ystyried yr effaith a gaiff eu penderfyniadau ar genedlaethau’r dyfodol. Mae AWMSG ac AWTTC wedi ymrwymo i addewid cynaliadwyedd. Mae AWTTC wedi sefydlu Grŵp Cynaliadwyedd i gefnogi AWMSG i ystyried 'egwyddor datblygu cynaliadwy' y ddeddf wrth wneud penderfyniadau.

Mae adroddiad, AWMSG a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2022), yn amlinellu sut mae AWMSG ac AWTTC yn gweithio i gyflawni saith nod llesiant y ddeddf drwy bedwar amcan llesiant. Mae’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu a chydweithio â rhanddeiliaid, gan gynnwys y diwydiant fferyllol, i gyrraedd y nodau hynny.

Helpu’r GIG yng Nghymru i leihau ei ôl troed carbon

Mae strategaeth genedlaethol i leihau ôl troed carbon anadlwyr yng Nghymru wedi mynd drwy broses gymeradwyo AWMSG. Mae’n amlinellu camau gweithredu allweddol i’r GIG eu dilyn ac yn pwysleisio ymrwymiad i gydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys y diwydiant fferyllol, i gyflawni’r nod hwn.

Canllawiau rhagnodi AWMSG yn cefnogi cynaliadwyedd

Ym mis Rhagfyr 2021, cymeradwyodd AWMSG ganllawiau rhagnodi sy’n anelu at leihau amrywiadau mewn dulliau rhagnodi anadlyddion yng Nghymru, ar gyfer rheoli asthma oedolion ac anhwylder rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD). Cymeradwywyd canllawiau rhagnodi ar gyfer rheoli asthma pediatrig ym mis Mai 2023. Mae’r canllawiau hyn yn annog ystyriaeth o gynllun cyflawni strategol datgarboneiddio GIG Cymru ac yn argymell rhagnodi anadlyddion powdr sych (DPI) ac anadlyddion anwedd ysgafn (SMIs) yn hytrach nag anadlyddion dos mesuredig (MDI). Mae hyn yn cyd-fynd â’r targed i’r GIG yng Nghymru leihau’r defnydd o MDI: o fwy na 70% o anadlyddion a ragnodwyd i lai nag 20% ​​erbyn 2025.

Dangosfwrdd datgarboneiddio AWTTC – yn adrodd ar gynnydd o ran lleihau ôl troed carbon anadlyddion mewn gofal sylfaenol yng Nghymru

Mae AWMSG ac AWTTC yn meddwl am effeithiau hirdymor yr hyn a wnânt, sef un o’u pedwar amcan llesiant. Maent wedi datblygu dangosfwrdd datgarboneiddio i ddangos ôl troed carbon defnyddio anadlyddion a roddir mewn gofal sylfaenol yng Nghymru. Mae gan y dangosfwrdd y canlynol:

  • data ar ragnodi gan fyrddau iechyd, clystyrau a phractisau meddygon teulu;
  • data ar yr ôl troed carbon a'r arian a wariwyd ar anadlyddion sydd ar gael i'w rhagnodi yng Nghymru; ac
  • offeryn newid, i helpu rhagnodwyr i helpu cleifion i wneud y newid i ddefnyddio DPI.

Mae data’n dangos tuedd ar i fyny yn y defnydd o DPIs ac SMIs, fel canran o gyfanswm yr eitemau, o wanwyn 2022 ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd Cymru. Roedd hyn yn dilyn cymeradwyo’r canllawiau rhagnodi wedi’u diweddaru ar gyfer rheoli asthma oedolion a COPD ym mis Rhagfyr 2021 (gweler Ffigur 1).

Mae data’n dangos tuedd ar i fyny yn y defnydd o DPIs ac SMIs, fel canran o gyfanswm yr eitemau, o wanwyn 2022 ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd yng Nghymru. Roedd hyn yn dilyn cymeradwyo’r canllawiau rhagnodi wedi’u diweddaru ar gyfer rheoli asthma oedolion a COPD ym mis Rhagfyr 2021 (gweler Ffigur 1).

Ffigur 1: Cyfartaledd treigl 3 mis mewn anadlyddion DPI a SMI fel canran o gyfanswm yr eitemau anadlyddion a ddefnyddiwyd mewn gofal sylfaenol yng Nghymru, ar draws holl fyrddau iechyd Cymru rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2023 (yn dangos tudalen crynodeb SPIRA yn y cefndir)

Mae hyn yn dangos pa mor gyflym y gall gwaith AWMSG ac AWTTC ddylanwadu ar arferion rhagnodi yng Nghymru, a phwysigrwydd gallu dal effaith y penderfyniadau hyn drwy gasglu data. Mae'r dangosfwrdd ar gael ar hyn o bryd i holl staff y GIG ar y Gweinyddwr ar gyfer Adrodd a Dadansoddi Gwybodaeth Rhagnodi (SPIRA) (Saesneg yn unig), a chynhyrchir adroddiadau cryno misol sydd ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar y wefan hon.

Dilynwch AWTTC: