Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod gan gleifion yng Nghymru fynediad cyflym a theg at feddyginiaethau. Gwellir gweld y pedair proses i gymeradwyo meddyginiaethau i’w defnyddio yn GIG Cymru, rhestr o’n hargymhellion a gwybodaeth ar gyflwyno meddyginiaeth newydd i’w defnyddio ar y dudalen hon.
Bydd nifer o newidiadau i broses Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer asesu meddyginiaethau i'w defnyddio yn GIG Cymru yn cael eu gweithredu o 1 Ionawr 2025. Mae hyn yn berthnasol i asesu meddyginiaethau trwyddedig a'r rhai sydd i'w defnyddio’n all-drwydded. Am fwy o wybodaeth gweler ein stori newyddion: Proses asesu meddyginiaethau AWMSG wedi'i diweddaru i'w lansio ym mis Ionawr 2025
Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn pan fydd y broses yn mynd yn fyw ar 1 Ionawr 2025. Bydd hyn yn cynnwys ffurflenni newydd ar gyfer y diwydiant fferyllol ac i glinigwyr a sefydliadau cleifion gyflwyno meddyginiaethau i’w hystyried i’w hasesu. Yn y cyfamser, a fyddech cystal ag anfon unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â chyflwyniadau ar gyfer gwerthusiad meddyginiaeth atom yn AWTTC@wales.nhs.uk.