Cliciwch ar y dolenni neu sgroliwch i lawr y dudalen i gael gwybodaeth am:
Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio, rheoli a phresgripsiynu meddyginiaethau yng Nghymru. Mae AWTTC yn cefnogi AWMSG a’i is-grwpiau. Rôl AWMSG yw:
Mae AWTTC yn cefnogi AWMSG a’i is-grwpiau: y Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG) a’r Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Bresgripsiynu (AWPAG). Mae staff AWTTC yn gweithio ar asesiadau technoleg iechyd; rheoli presgripsiynu meddyginiaethau, diogelwch a gwenwyneg; a dadansoddi data presgripsiynu a fydd yna’n cael ei ystyried gan AWMSG a’i is-grwpiau.
Bydd Strategaeth Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), syn cyd-fynd â blaenoriaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau y gall pawb yng Nghymru dderbyn gwasanaethau iechyd syn diwallu eu hanghenion.
AWMSG Strategaeth i Gymru: 2024-2029
Mae fersiynau blaenorol o strategaeth AWMSG ar gael ar y dudalen Strategaethau Meddyginiaethau i Gymru.
Mae’r pwyllgor yn cynnwys meddygon ymgynghorol y GIG, meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, economegwyr iechyd, cynrychiolwyr y diwydiant fferyllol ac aelodau lleyg sy’n cyfuno eu harbenigeddau a’u gwybodaeth i gytuno ar ddefnydd meddyginiaethau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghymru.
Bydd AWMSG fel arfer yn cyfarfod 10 gwaith y flwyddyn ac mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd. Mae dyddiadau a phapurau cyfarfodydd ar gyfer cyfarfodydd AWMSG sydd i ddod ynghyd â chofnodion ac agendâu cyfarfodydd blaenorol ar gael ar dudalen cyfarfodydd AWMSG.
Mae’n rhaid i holl aelodau AWMSG lenwi ffurflen Datgan Diddordeb bob blwyddyn a chyn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod AWMSG.
Aelodau pleidleisio AWMSG yw:
Yr Athro Iolo Doull | Cadeirydd |
Yr Athro Stephen Monaghan | Meddyg Ymgynghorol ym maes Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus |
Eleri Shiavone | Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru |
Yr Athro Dyfrig Hughes | Economegydd Iechyd |
Farhan Mughal / Tommy Price / Kate Parrish | Cynrychiolydd ABPI Cymru (un cynrychiolydd yn bresennol ym mhob cyfarfod) |
Cliff Jones | Cynrychiolydd Lleyg |
Claire James | Cynrychiolydd Lleyg |
Dylan Jones | Fferyllydd Cymunedol |
Dr Jim McGuigan | Cyfarwyddwr Meddygol |
Dr Jeremy Black | Meddyg Teulu gyda rôl presgripsiynu arweiniol |
Alison Hughes | Fferyllydd Sector a Reolir |
John Terry | Fferyllydd Sector a Reolir |
Hywel Pullen | Cyfarwyddwr Cyllid |
Mandy James | Uwch-nyrs |
Cathy Wynne | Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n gymwys i bresgripsiynu |
Dr Alison Thomas | Ffarmacolegydd Clinigol |
Dr Samantha Cox | Cyfarwyddwr Meddygol |
Ein dirprwy aelodau pleidleisio yw: | |
Gwag | Meddyg Ymgynghorol ym maes Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus |
Dr Helen Fardy | Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru |
Yr Athro Pippa Anderson | Economegydd Iechyd |
Gwag | Cynrychiolydd Lleyg |
Gwag | Fferyllydd Cymunedol |
Gwag | Cyfarwyddwr Meddygol |
Gwag | Meddyg Teulu gyda rôl presgripsiynu arweiniol |
Rafia Jamil | Fferyllydd Sector a Reolir |
Stuart Rees | Fferyllydd Sector a Reolir |
James Leaves | Cyfarwyddwr Cyllid |
Katherine White | Uwch-nyrs |
Karl Jackson | Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n gymwys i bresgripsiynu |
Dr Manjeet Singh | Ffarmacolegydd Clinigol |
Dr Manjeet Singh | Cyfarwyddwr Meddygol |
Mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, y Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG) a Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) hefyd yn dod i’n cyfarfodydd ond nid ydynt yn pleidleisio.
Lawrlwytho Adroddiad Blynyddol AWMSG 2020-2021
Mae adroddiadau blynyddol blaenorol AWMSG ar gael ar dudalen adroddiadau blynyddol AWMSG
Ar ddiwedd 1999, sefydlodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Bresgripsiynu, dan gadeiryddiaeth Syr Norman Mills, i gynghori ar wella arferion presgripsiynu a darpariaeth meddyginiaethau yng Nghymru. Argymhellodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen sefydlu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan a datblygu Strategaeth Presgripsiynu Cymru Gyfan. Sefydlwyd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn 2002 i gynghori Llywodraeth Cymru ar reoli a phresgripsiynu meddyginiaethau mewn modd effeithiol, effeithlon a thryloyw.
Lawrlwytho adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Bresgripsiynu, a gyhoeddwyd yn 2001.
Mae’r Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG) yn is-grŵp AWMSG ac mae’n cefnogi asesiadau meddyginiaethau newydd. Mae aelodau NMG yn ystyried yr holl dystiolaeth ynglŷn â pha mor dda y mae meddyginiaeth yn gweithio a faint fydd yn gostio i GIG Cymru (effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd). Mae hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth a gyflwynir gan gwmni fferyllol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion, gofalwyr a sefydliadau cleifion neu grwpiau cymorth.
Bydd yr NMG yn cyfarfod hyd at 10 gwaith y flwyddyn, i drafod yr holl dystiolaeth ar gyfer pob meddyginiaeth sy’n cael ei hasesu. Yn y cyfarfod byddant yn cytuno ar argymhelliad i’w roi i AWMSG am bob meddyginiaeth. Mae dyddiadau cyfarfodydd NMG ar gyfer 2022 ar gael ar dudalen cyfarfodydd NMG.
Cynhelir holl gyfarfodydd yr NMG yn breifat.
Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am aelodaeth NMG a chyfansoddiad NMG.
Mae’n rhaid i holl aelodau NMG lenwi ffurflen Datgan Diddordeb bob blwyddyn a chyn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod NMG.
Mae Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Bresgripsiynu (AWPAG) yn is-grŵp AWMSG ac mae’n cynghori ar ddatblygiadau strategol ym maes presgripsiynu meddyginiaethau a’u defnydd diogel ac effeithiol yng Nghymru.
Mae AWPAG yn gweithio i:
Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am aelodaeth AWPAG a Chyfansoddiad AWPAG.
Cynhelir cyfarfodydd AWPAG yn breifat. Mae dyddiadau cyfarfodydd AWPAG ar gyfer 2021 a chofnodion cyfarfodydd blaenorol ar gael ar dudalen cyfarfodydd AWPAG.
Rhaid i holl aelodau AWPAG lenwi ffurflen Datganiad Buddiant bob blwyddyn a chyn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod AWPAG.
Mae'r Pwyllgor Llywio yn cynllunio ac yn blaenoriaethu rhaglen waith AWMSG.
Mae'r pwyllgor yn cynnwys:
Mae'r pwyllgor yn cyfarfod bob mis, yn breifat, i:
I siarad am y rhaglen arfarnu meddyginiaethau, gellir gwahodd cynrychiolwyr o’r canlynol:
Gellir gwahodd aelodau AWMSG hefyd i gyfarfodydd y Pwyllgor Llywio.
Arferai OWMAG gael ei adnabod fel y Grŵp Comisiynu Llwybrau Dros Dro (IPCG) tan fis Mehefin 2021. Mae OWMAG yn cynnwys cynrychiolaeth o bob panel IPFR, aelod lleyg, cynrychiolydd y diwydiant, cynrychiolydd cyllid, ffarmacolegydd clinigol ac economegydd iechyd. Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am aelodaeth OWMAG.
Mae cofnodion cyfarfodydd blaenorol ar gael o gyfarfodydd OWMAG tudalen.
* cynnwys yn ofynnol *.