Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae AWMSG ac AWTTC yn cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

13 Rhagfyr 2023

Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a Chanolfan Therapiwteg a Thosicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn gweithio i wella'r defnydd diogel o feddyginiaethau yng Nghymru, ac i sicrhau y gall pobl yng Nghymru gael mynediad at feddyginiaethau clinigol effeithiol a chosteffeithiol pan fydd eu hangen arnynt.

Mae AWMSG ac AWTTC hefyd yn gweithio i gyflawni saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015), ac yn dilyn pum ffordd y Ddeddf o weithio, gan gynnwys cydweithio, a chyfranogiad. Mae AWTTC yn cynnwys lleygwyr, cleifion a gofalwyr yn eu gwaith, a rhaid iddynt hefyd sicrhau eu bod yn cynnwys pobl sy'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae AWMSG ac AWTTC yn ei gwasanaethu.

Nod AWMSG ac AWTTC yw lleihau anghydraddoldebau a gwella cynhwysiant drwy:

  • sicrhau bod gwefan AWTTC, a'r holl ddogfennau a gyhoeddwyd, yn hygyrc
  • cynnal cyfarfodydd rhithwir ein Grŵp er budd Cleifion a’r Cyhoedd
  • cwblhau asesiadau effaith ar gydraddoldeb ac iechyd
  • cyhoeddi gwaith AWTTC yn Gymraeg a Saesneg; gyda staff yn cael eu canmol am eu gwaith o ansawdd uchel i fodloni safonau'r Gymraeg
  • cynhyrchu taflenni gwybodaeth i gleifion mewn iaith syml a fformatau hawdd eu deall

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd

Mae aelodau tîm Tegwch a Chynhwysiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cefnogi staff AWTTC i gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb ac iechyd (EqHIAs), ac i ddatblygu templed EqHIA AWTTC ei hun.  

Mae AWTTC, gan weithio gydag awdur yr adnoddau, yn cwblhau EqHIA ar gyfer pob adnodd y gofynnir i AWMSG ei gymeradwyo. Eu nod yw helpu AWMSG a'i is-bwyllgorau‑ i ystyried effaith eu gwaith ar bobl yng Nghymru. Mae'r asesiadau yn gofyn am ystyried effaith bosibl y polisi ar bobl ar sail eu 'nodweddion gwarchodedig', ac yn sicrhau bod camau lliniaru yn cael eu hystyried. Cyhoeddir pob EqHIA ar wefan AWTTC ar gyfer sylwadau. Am enghraifft, gweler Canllawiau rheoli a rhagnodi asthma pediatrig Cymru Gyfan .

Ym mis Ionawr 2023, sefydlodd AWTTC Grŵp Cydraddoldeb hefyd yn cynnwys staff o wahanol adrannau AWTTC. Ei nod yw hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn ein sefydliad, a sicrhau bod AWTTC yn cynnal ac yn cyhoeddi EqHIAs o ansawdd uchel ar gyfer eu prosiectau.

Gwrando ar lais y cyhoedd 

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i fynychu cyfarfodydd rhithwir Grŵp er budd Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG) AWTTC. Gall mynychwyr glywed am waith AWTTC a gwaith sefydliadau eraill GIG Cymru, gofyn cwestiynau, a darganfod sut y gallant gymryd rhan. 

Mae AWMSG a'i is-bwyllgorau yn cynnwys aelodau lleyg. Mae aelodau lleyg wedi tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod dogfennau a gyhoeddwyd ar wefan AWTTC yn hygyrch i bawb. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi taflenni gwybodaeth i gleifion mewn fformatau sy’n hawdd eu deall. Mae taflenni gwybodaeth i gleifion sy'n hawdd eu deall yn ddefnyddiol i bobl ag anableddau dysgu a hefyd i bobl nad ydynt yn nodi bod ganddynt anabledd dysgu ond y byddai rhai dogfennau technegol yn anhygyrch iddynt. 

Gweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru

Mae gan bobl ag anabledd dysgu hawl i wybodaeth y gallant ei deall fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus, lleisio eu barn a chymryd rhan yn eu cymunedau. ae Anabledd Dysgu Cymru yn cymryd dogfennau cymhleth a'u troi'n fersiynau hawdd eu deall o safon uchel, fel y gall pobl ag anableddau dysgu eu deall.

Yn 2023, mynychodd nifer o staff AWTTC gwrs hyfforddi Anabledd Dysgu Cymru ar wneud gwybodaeth yn hawdd ei darllen a'i deall. Gwnaeth Anabledd Dysgu Cymru gyflwyniad hefyd mewn cyfarfod PAPIG ym mis Gorffennaf 2023ar bwysigrwydd gwneud gwybodaeth yn hygyrch ac yn gynhwysol.  

Mewn partneriaeth ag Anabledd Dysgu Cymru, datblygodd AWTTC daflen hawdd ei deall ar “Tramadol” (Ffigur 1). Addaswyd y fformat hawdd ei ddeall o'r daflen wybodaeth i gleifion a oedd yn cyd-fynd ag Adnoddau addysgol Tramadol. Cyhoeddwyd y daflen beilot hawdd ei deall ym mis Gorffennaf 2023, a chyhoeddwyd ail daflen ar Deall meddyginiaethau didrwydded ym mis Hydref 2023.

Bydd AWTTC yn parhau i weithio gydag Anabledd Dysgu Cymru a sefydliadau eraill yng Nghymru i ddatblygu fformatau hawdd eu deall ar gyfer pob taflen gwybodaeth i gleifion a gymeradwywyd gan AWMSG.

Dilynwch AWTTC: