Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfodydd PAPIG

Mae dod i un o'n cyfarfodydd Grŵp Buddiannau Cleifion a Chyhoeddus (PAPIG) yn ffordd wych o ddarganfod mwy amdanom ni a sut i gymryd rhan yn ein gwaith. Mae croeso i bawb.

Cyfarfodydd nesaf - 22 Mai 2024

Cynhelir y cyfarfod hwn yn rhithwir trwy Zoom. Bydd mwy o fanylion gan gynnwys ffurflen gofrestru ar-lein ar gael o yma yn yr ychydig wythnosau nesaf.

 

Cyfarfodydd blaenorol PAPIG

27 Chwefror 2024

Ffocws y cyfarfod hwn oedd diabetes math 2. Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig).

AWTTC round-up (Ruth Lang, AWTTC)

 

Dull cyfannol o reoli diabetes math 2 (Dr Sarah Davies, Arweinydd Cymru Gyfan ar gyfer Diabetes mewn Gofal Sylfaenol)

 

Y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes (Susan Marszalek, Rheolwr Prosiect, Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes)

 

Atal a lleddfu diabetes math 2 yng Nghymru (Cath Washbrook-Davies, Arweinydd Deieteg Cymru Gyfan ar gyfer Diabetes ac Arweinydd Deieteg ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan)

 

Cynnwys cleifion mewn strategaethau i fynd i’r afael â diabetes yng Nghymru (Rob Lee, Grŵp Cyfeirio Cleifion Diabetig Cymru Gyfan)

19 Hydref 2023

Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig).

Crynodeb AWTTC (Ruth Lang, AWTTC)

 

Cymru difficile – haint C. difficile yng Nghymru (Dr Michael Perry, Iechyd Cyhoeddus Cymru)

 

Wythnos Diogelwch Meddyginiaethau 2023 (Dr Caroline Norris, Canolfan Cerdyn Melyn Cymru)

 

Meddyginiaethau llysieuol – yn ddiogel ac yn naturiol?  (Dr Rob Bracchi, AWTTC)

 

Y 5 mlynedd nesaf – sut y bydd AWMSG yn cefnogi GIG Cymru i sicrhau’r canlyniadau gorau o feddyginiaethau (Dr Stephanie Francis a Dr Tom Curran, AWTTC)

6 Gorffennaf 2023

Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig).

Crynodeb AWTTC (Karen Jones, AWTTC)

 

Sut i roi’r gorau i gyffuriau gwrth-iselder yn ddiogel (Stevie Lewis and Dr Mark Horowitz, Institute for Psychiatric Drug Withdrawal)

 

Llinell gymorth meddyginiaethau i gleifion (Joanne Hubbard a Andrea Griffiths, Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru)

 

Gwneud gwybodaeth i gleifion yn hygyrch ac yn gynhwysol (Simon Rose, Anabledd Dysgu Cymru)

 

Taflen hawdd ei darllen i bobl y rhagnodwyd tramadol (Karen Jones, AWTTC)

 

Gwybodaeth i’r cyhoedd am atal gwenwyno (Talan Parnell, Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru, AWTTC)

 

Datgarboneiddio: presgripsiynu, defnyddio a gwaredu anadlyddion 2023–2030; Strategaeth genedlaethol i Gymru (Richard Boldero, AWTTC)

20 Ebrill 2023

Ffocws y cyfarfod hwn yw amlgyffuriaeth. Mae amlgyffuriaeth (un person yn cymryd sawl math o feddyginiaeth) yn gysylltiedig â risg uwch o wynebu problemau gan gynnwys sgil-effeithiau.

Y cyflwyniadau yn y cyfarfod:

  • Amlgyffuriaeth – safbwynt claf (Rob Lee, Diabetes UK) ac Amlgyffuriaeth – safbwynt gofalwr (Dr Rob Bracchi a Sabrina Rind, AWTTC)
  • Amlgyffuriaeth - rhoi canllawiau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar waith gyda chleifion (Harriet Price a Sheridan Court, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Emyr Jones, Fferyllydd Ymgynghorol Cymru Gyfan)
  • Amlgyffuriaeth, diogelwch meddyginiaethau a rhoi gwybod am sgil-effeithiau (Jenna Walker a Caroline Norris, Canolfan Cerdyn Melyn Cymru)

Bydd fideos o'r cyflwyniadau ar gael yma yn fuan.

7 Chwefror 2023

Ffocws y cyfarfod hwn oedd fferylliaeth yn y gymuned ac mewn Ymarfer Cyffredinol. Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig).

Presgripsiynu rheolaidd a’r broses adolygu meddyginiaeth flynyddol mewn Ymarfer Cyffredinol (Rachel Brace)

 

Beth sy’n newydd mewn fferylliaeth gymunedol (Kayleigh Williams)

 

21 Hydref 2022

Ffocws y cyfarfod ar-lein hwn oedd effaith amgylcheddol meddyginiaethau. Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig).

Sut mae AWTTC/AWMSG yn cefnogi’r agenda cynaliadwyedd meddyginiaethau (Richard Boldero, AWTTC)

 

Ailgylchu anadlyddion mewn fferylliaeth gymunedol (Oliver Newman, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)

 

Safbwynt y diwydiant fferyllol ar gynaliadwyedd mewn perthynas â meddyginiaethau (Steve Hoare, ABPI)

 

Safbwyntiau cleifion ar gynaliadwyedd (Joseph Carter, Lung and Asthma UK)

 

Diweddariad ar Ganolfan Cerdyn Melyn Cymru (Jenna Walker, YCC Wales)

 

Am Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru (Bethan Hughes, WNPU)

18 Mawrth 2022

 

12 Tachwedd 2021

 

23 Gorffennaf 2021

Fe wnaethon ni stopio ein gweithgareddau PAPIG wyneb yn wyneb arferol yn 2020 oherwydd y pandemig coronafirws.

Fodd bynnag, gwnaethom ail-gychwyn ein cyfarfodydd chwarterol trwy gynnal ein cyfarfod rhithwir cyntaf erioed PAPIG ar 23 Gorffennaf 2021. Mae fideo o'r digwyddiad hwn ar gael isod ac mae rhaglen y cyfarfod ar gael hefyd.

 

 

Dilynwch AWTTC: