Neidio i'r prif gynnwy

Aelod o staff AWTTC yn derbyn Gwobr y Gymraeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Enillodd Kelly Wood, Uwch Wyddonydd yng Nghanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), y categori Cydraddoldeb/y Gymraeg yng Nghynllun Cydnabod Staff y Bwrdd Clinigol Diagnosteg a Therapiwteg Glinigol. Roedd hyn ar gyfer y gwaith caled y mae Kelly wedi'i wneud yn hyrwyddo’r defnydd o'r Gymraeg ac yn hyrwyddo cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg.

Mae Kelly wedi cynnal adolygiad helaeth o brosesau a dogfennaeth AWTTC mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg ac wedi llunio cynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer yr adran.  Mae cynnydd AWTTC wrth weithredu mentrau’r Gymraeg wedi cael ei rannu gyda meysydd eraill y bwrdd iechyd i helpu i gefnogi arfer gorau.

Mae enghreifftiau o'r gwaith a wnaed eisoes yn cynnwys sefydlu'r dewis iaith ar gyfer cynrychiolwyr y Grŵp er Budd Cleifion a’r Cyhoedd, sefydlu cyfrif Twitter Cymraeg AWTTC, rhoi llofnodion e-bost dwyieithog i'r holl staff gan gynnwys logo i ddangos eu lefel rhuglder yn y Gymraeg, a pheilot o feddalwedd cyfrifiadurol ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg yn Gymraeg. Bydd darparu gwasanaeth dwyieithog yn helpu i annog a gwella cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd yng ngwaith AWTTC.

Cyflwynwyd y wobr i Kelly gan Matt Temby, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Bwrdd Clinigol Diagnosteg a Therapiwteg Glinigol. Mae Kelly hefyd wedi cael ei chyflwyno ar gyfer Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 2020 am y gwaith hwn.

Dilynwch AWTTC: