Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno ar gyfer arfarniad AWMSG

Mae AWTTC wrthi’n adolygu prosesau AWMSG sy’n cefnogi mynediad at feddyginiaethau yn GIG Cymru. Wrth i dirwedd mynediad at feddyginiaethau ledled y DU newid, rydym yn addasu ein prosesau i sicrhau bod llwybrau mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru yn diwallu anghenion cleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r GIG yng Nghymru. Mae ein hadolygiad yn parhau a byddwn yn rhoi diweddariad erbyn Gwanwyn 2024.

Yn y cyfamser, rydym yn annog cwmnïau i anfon unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â cheisiadau ar gyfer arfarnu meddyginiaethau atom drwy e-bostio AWTTC@wales.nhs.uk. Fel arall, gall cwmnïau ddarparu gwybodaeth am lansiadau meddyginiaethau wedi’u cynllunio trwy gwblhau a chyflwyno Ffurflen A.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein dogfen Review of AWMSG processes to support medicines access in NHS Wales (Saesneg yn unig)

Ein nod yw rhoi cyngor am yr holl feddyginiaethau trwyddedig sy'n cwrdd â'n meini prawf arfarnu cyn pen 6–9 mis ar ôl i'r feddyginiaeth dderbyn ei thrwydded. Rhoddir gwybodaeth am gamau arfarniad AWMSG a'r ddogfennaeth sydd ei hangen ar gyfer pob cam isod.

Cam 1

Cam 2

Ar ôl derbyn eich Ffurflen A, byddwn yn cadarnhau a yw eich meddyginiaeth yn bodloni meini prawf AWMSG ar gyfer ei harfarnu fel cyflwyniad llawn (Ffurflen B) neu gyflwyniad cyfyngedig (Ffurflen C). Os nad yw'ch meddyginiaeth yn cwrdd â meini prawf arfarnu AWMSG yna byddwn yn eich hysbysu bod y feddyginiaeth wedi'i 'heithrio o HTA' ac na fydd yn cael ei gwerthuso. Heb gyflwyniad (Ffurflen B neu Ffurflen C), mae dau gam gweithredu y gall AWMSG eu cymryd:

  • cyhoeddi Datganiad Cyngor oherwydd peidio â chyflwyno; neu
  • Gall Llywodraeth Cymru gyfarwyddo AWMSG i werthuso'r feddyginiaeth gan ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cam 3

Cam 4

Dilynwch AWTTC: