Aelodau o’r cyhoedd a all hefyd fod yn gleifion neu’n ofalwyr yw aelodau lleyg. Maent yn chwarae rhan allweddol mewn gwneud yn siŵr bod barn cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a’r cyhoedd yn gyffredinol yn helpu i lywio penderfyniadau am feddyginiaethau. Mae aelodau lleyg hefyd yn rhoi barn annibynnol ac yn amlygu’r hyn sy’n bwysig i gleifion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
Mae AWTTC yn cefnogi 5 pwyllgor:
Gall aelodau’r pwyllgor gynnwys meddygon, fferyllwyr, nyrsys, economegydd iechyd, cynrychiolydd o’r diwydiant fferyllol, ac o leiaf un aelod lleyg (claf, gofalwr neu aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb).
Mae AWTTC hefyd yn gweithio gyda byrddau iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) i gefnogi’r gwaith o recriwtio aelodau lleyg i’w baneli IPFR.
Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod am bob pwyllgor a rôl eu haelodau lleyg:
Gall unrhyw un 18 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru wneud cais i ddod yn aelod lleyg. Mae rhai eithriadau, er enghraifft, ni all pobl a gyflogir ar hyn o bryd gan GIG Cymru fod yn aelodau lleyg. Nid oes angen cefndir ym maes iechyd ar ymgeiswyr i fod yn aelodau lleyg – mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eisoes wedi’u cynrychioli’n dda ar ein pwyllgorau. Nid oes angen unrhyw wybodaeth wyddonol, ymchwil nac economeg iechyd; Mae AWTTC yn rhoi hyfforddiant i aelodau lleyg yn y meysydd hyn. Mae angen i aelodau lleyg panel IPFR fyw yn ardal y bwrdd iechyd y maent yn ei gynrychioli.
Mae’r sgiliau a’r rhinweddau yr ydym yn chwilio amdanynt yn cynnwys:
Mae angen i’n holl aelodau lleyg:
Dywed ein cyn aelodau lleyg ac aelodau lleyg presennol eu bod yn cael boddhad personol mawr o fod yn aelod lleyg. Maent yn mwynhau’r her a’r cyfrifoldeb o fod yn rhan o bwyllgor sy’n gwneud penderfyniadau pwysig ar feddyginiaethau i bobl Cymru.
Rydym yn cefnogi ein haelodau lleyg drwy gydol eu hamser gyda ni. Ar gyfer pob aelod lleyg ar bob un o’n pwyllgorau rydym yn cynnig:
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych - cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o’r dulliau isod fel y gallwn ddweud mwy wrthych am y rôl a sut i wneud cais.