Neidio i'r prif gynnwy

Adrodd Cerdyn Melyn ar gyfer cleifion, gofalwyr a'r cyhoedd

Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am beth i’w adrodd, sut i adrodd a gyda phwy i gysylltu i gael cymorth wrth wneud adroddiad.

Gall pawb helpu i wneud meddyginiaethau’n fwy diogel trwy adrodd am sgil effeithiau i’r Cynllun Cerdyn Melyn. Gall pob meddyginiaeth achosi sgil effeithiau. Efallai na fydd rhai yn hysbys eto, felly dyna pam ei bod yn bwysig i bobl adrodd i’r Cynllun Cerdyn Melyn. Mae llawer o sgil effeithiau yn rhai mwyn, ond gall rhai fod yn ddifrifol a hyd yn oed beryglu bywyd. Mae eraill i’w gweld ar ôl cymryd meddyginiaeth am amser hir neu hyd yn oed ar ôl stopio cymryd meddyginiaeth.

Mae’n bwysig bod pobl yn adrodd gan fod yr adroddiadau’n cael eu defnyddio i nodi sgil effeithiau a phroblemau eraill na fyddai efallai wedi bod yn hysbys o’r blaen. Os canfyddir sgil effaith newydd, bydd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn adolygu sut y gellir defnyddio’r feddyginiaeth, a’r rhybuddion a roddir i bobl sy’n ei chymryd er mwyn lleihau risg a sicrhau’r budd mwyaf posibl i’r claf.

Gallwch roi gwybod am sgil effeithiau sydd wedi digwydd i:

  • Chi yn bersonol
  • Eich plentyn
  • Rhywun rydych chi’n gyfrifol amdano/amdani (e.e. priod, partner, neu blentyn sy’n oedolyn), neu rywun sy’n gofyn i chi adrodd ar eu rhan gyda’u cytundeb

Mae’r MHRA hefyd yn casglu adroddiadau Cerdyn Melyn ynglŷn â sgil effeithiau a amheuir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol megis meddygon, fferyllwyr a nyrsys.

Sylwer na allwn roi’r cyngor meddygol mewn achosion unigol. Os ydych chi’n poeni am symptom yr ydych chi’n meddwl a allai fod yn sgil effaith:

  • Darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion a ddarperir gyda’r feddyginiaeth. Mae hon yn rhestru’r sgil effeithiau sy’n hysbys ac yn eich cynghori ynglŷn â beth i’w wneud.
  • Siaradwch â’ch meddyg neu fferyllydd.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael sgil effaith o’ch meddyginiaeth, gallwch adrodd am hyn trwy’r Cynllun Cerdyn Melyn:

Adrodd ar-lein

Y ffordd hawsaf a chyflymaf i adrodd am sgil effeithiau yw ar-lein yn http://www.mhra.gov.uk/yellowcard

Rhoddir cyfarwyddiadau llawn ar y wefan. Os gwnaethoch ddewis cofrestru, gallwch hefyd gadw golwg ar unrhyw Gardiau Melyn a anfonwyd gennych.

Dylid rhoi gwybod am sgil effeithiau a amheuir meddyginiaethau, brechlynnau neu ddyfeisiau meddygol sy’n ymwneud â thrin ac atal COVID-19 trwy’r wefan adrodd COVID-19 bwrpasol newydd.

Trwy lenwi ffurflen Cerdyn Melyn

Gallwch lawrlwytho ac argraffu ffurflen yn uniongyrchol o wefan y Cerdyn Melyn.

Neu gellir cael ffurflenni mewn fferyllfeydd, meddygfeydd meddygon teulu neu ar rif rhadffôn Cerdyn Melyn trwy ffonio 0800 731 6789 (ar gael ar ddyddiau’r wythnos waith rhwng 09:00 a 17:00).

Dros y ffôn

Mae llinell gymorth Cerdyn Melyn yn un rhadffôn 0800 731 6789 (ar gael ar ddyddiau’r wythnos waith rhwng 09:00 a 17:00).

Llenwi'r ffurflen Cerdyn Melyn

Mae pum adran i'r ffurflen:

  1. Ynglŷn â'r sgîl-effaith a amheuir Y symptomau neu ddisgrifiad o'r sgil-effaith.
  2. Ynglŷn â'r unigolyn a gafodd y sgil effaith a amheuir Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, hyd yn oed os yw'n well gennych beidio â chynnwys enw.
  3. Ynglŷn â’r feddyginiaeth (meddyginiaethau) a allai fod wedi achosi’r sgil effaith
    Gan y gall sgil effeithiau gael eu hachosi gan ryngweithio rhwng meddyginiaethau, mae angen i ni wybod am unrhyw feddyginiaethau eraill neu feddyginiaethau llysieuol a oedd yn cael eu cymryd pan ddigwyddodd y sgil effaith.
  4. Ynglŷn â'ch meddyg (dewisol)
    Os ydych chi'n rhoi caniatâd i ni gysylltu â'ch meddyg, rhowch fanylion cyswllt.
  5. Amdanoch chi (yr unigolyn sy’n gwneud yr adroddiad)
    Rydym angen eich enw a’ch manylion cyswllt fel y gallwn gysylltu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom. Rhowch gyfeiriad post hyd yn oed os yw’n well gennych beidio â rhoi eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost.

Ffoniwch linell gymorth Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 neu gofynnwch i weithiwr gofal iechyd proffesiynol (megis eich meddyg, nyrs neu fferyllydd) am gymorth.

Rydym yn awgrymu bod gennych eich meddyginiaeth a/neu’r daflen a ddaeth gydag ef o’ch blaen wrth i chi lenwi’r adroddiad. Llenwch gymaint o’r ffurflen â phosibl ond nid oes ots os na allwch lenwi pob rhan o’r Cerdyn Melyn.

Mae Cardiau Melyn a gwblhawyd gan gleifion neu aelodau o’r cyhoedd yn cynnwys gwybodaeth gyswllt bersonol. Rydym yn gofyn am y manylion hyn fel y gallwn gysylltu os oes angen mwy o wybodaeth am yr adroddiad Cerdyn Melyn.

Bydd y wybodaeth a roddir gennych yn cael ei chadw’n ddiogel a chyfrinachol. Ni fydd data personol yn cael ei drosglwyddo i unrhyw berson y tu allan i’r MHRA heb eich caniatâd penodol. Yn ogystal, mae unrhyw fanylion y claf a’r adroddwr wedi’u heithrio o’r wybodaeth y mae’n ofynnol i ni ei darparu’n gyfreithiol trwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall anfon adroddiad am sgil effaith a amheuir os nad ydych am roi eich enw i ni. Efallai y bydd angen i ni gysylltu â’r person hwnnw i gael mwy o wybodaeth am yr adroddiad.

Mae’r MHRA yn cyhoeddi data yn rheolaidd am wybodaeth a roddir mewn adroddiadau Cerdyn Melyn, ond nid yw hyn byth yn cynnwys enwau na manylion personol eraill y bobl a wnaeth yr adroddiad.

Dilynwch AWTTC: