Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Hyrwyddwr Cerdyn Melyn

Oeddech chi’n gwybod bod gennych Hyrwyddwr Cerdyn Melyn lleol? Gall hyrwyddwyr eich cynorthwyo pan fyddwch yn cwblhau adroddiad Cerdyn Melyn a gallant gynnal sesiynau hyfforddi ar adweithiau niweidiol i gyffuriau a’r Cynllun Cerdyn Melyn.

Ym mis Mawrth 2013, lansiodd CCM Cymru Gynllun Hyrwyddwyr Ysbyty Cerdyn Melyn ledled Cymru. Enwebodd pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru fferyllydd ysbyty neu dechnegydd fferyllfa ysbyty i weithredu fel Hyrwyddwr Cerdyn Melyn. Yn ogystal, enwebodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fferyllydd i weithredu fel Hyrwyddwr Cerdyn Melyn Iechyd y Cyhoedd.

Ym mis Chwefror 2016, cynyddwyd y cynllun i gynnwys fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol o feysydd gofal cymunedol a sylfaenol.

E-bostiwch YCCWales@wales.nhs.uk i gysylltu â'ch hyrwyddwr lleol.

Ydych chi awydd dod yn Hyrwyddwr Cerdyn Melyn? Gallwn gynnig yr holl hyfforddiant a’r gefnogaeth fydd ei hangen arnoch. Cysylltwch â ni yn YCCWales@wales.nhs.uk

Dilynwch AWTTC: