Neidio i'r prif gynnwy

Addysg

Mae Canolfan Cerdyn Melyn Cymru yn hapus i ddod atoch i gynnal sesiynau hyfforddi ar adweithiau niweidiol i gyffuriau (ADR) a’r Cynllun Cerdyn Melyn.

Mae staff yn CCM Cymru ar gael i roi cyngor ar adrodd Cerdyn Melyn a chynnig sesiynau addysg a hyfforddiant am ADR a amheuir i bob gweithiwr iechyd proffesiynol a grŵp cleifion. Gellir teilwra sesiynau i’ch gofynion o ran amser a’ch cynulleidfa. Mae’r sesiynau’n cynnwys sgyrsiau anffurfiol byr e.e. cyfarfodydd awr ginio neu sesiynau DPP, darlithoedd ffurfiol fel rhan o raglenni hyfforddiant wedi’u strwythuro neu gynadleddau, a gweithdai hanner diwrnod.

  • Sut i adnabod ADR a amheuir
  • Pwysigrwydd adrodd
  • Beth i'w adrodd ar Gerdyn Melyn
  • Her ADRs yng Nghymru
  • Sut y defnyddir gwybodaeth Cerdyn Melyn
  • Osgoi ADR a rhyngweithiadau
  • Presgripsiynu diogel ac effeithiol

Darperir yr holl hyfforddiant am ddim ar yr amod bod gennych fynediad at leoliad hyfforddi addas.

Os hoffech drefnu sesiwn hyfforddi cysylltwch â ni trwy e-bost yn YCCWales@wales.nhs.uk neu ffonio 02921 845831

Methu â threfnu sesiwn hyfforddi? Rhowch gynnig ar y modiwlau e-ddysgu hyn:

Pecyn e-ddysgu: Adweithiau Niweidiol i Gyffuriau: Mae adrodd yn gwneud meddyginiaethau yn ddiogelach

Mae’r adnodd hwn, a ddatblygwyd trwy Gydweithrediad SCOPE, ar gael i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae’n canolbwyntio ar adrodd am adweithiau niweidiol i gyffuriau (ADR) a phwysigrwydd monitro diogelwch meddyginiaethau.

Mae NHS Education for Scotland a Chanolfan Cerdyn Melyn yr Alban wedi datblygu cyfres o chwe modiwl yn ymwneud ag adweithiau niweidiol i gyffuriau. Y modiwlau sydd ar gael yw:

  • Egwyddorion sylfaenol ADR
  • Categoreiddio
  • Dosbarthiad alergedd cyffuriau
  • Diagnosis, dehongli a rheoli
  • Osgoi adweithiau niweidiol i gyffuriau
  • Gwyliadwriaeth ffarmacolegol

Mae Canolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru wedi datblygu pecyn e-ddysgu adweithiau niweidiol i gyffuriau .

Mae'r Ganolfan Addysg Fferyllol Ôl-radd (CPPE) wedi datblygu cyfres o dair rhaglen e-ddysgu gyda the Chanolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru ac MHRA. Mae’r rhaglenni wedi’u cymeradwyo gan yr Uned Ymchwil Diogelwch Cyffuriau.

Dylai’r modiwlau e-ddysgu gynorthwyo fferyllwyr i ddeall sut i nodi, adrodd am ac atal ADR:

Dilynwch AWTTC: