Neidio i'r prif gynnwy

Rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn: Canllaw arfer da (Ymgynghoriad)

Byddem yn croesawu eich sylwadau ar y papur drafft o'r enw "Rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn: canllaw arfer da” a'r Ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA) gysylltiedig.

Nod y protocol rhagnodi hwn yw annog dull mwy cyson o weithredu strategaeth ragnodi wrth gefn gan bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a, lle bo modd, lleihau amlygiad diangen i gyffuriau gwrthficrobaidd gan leihau'r risg o effeithiau andwyol a chael heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ac organebau sydd ag ymwrthedd gwrthficrobaidd. Un strategaeth i leihau defnydd diangen o gyffuriau gwrthficrobaidd mewn gofal sylfaenol yw defnyddio dull rhagnodi wrth gefn ar gyfer heintiau hunangyfyngol penodol. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) yn cefnogi dull rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn ar gyfer: otitis media aciwt; dolur gwddf acíwt; rhinosinwsitis acíwt a pheswch acíwt/broncitis acíwt. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) hefyd yn argymell ei ddefnyddio ar gyfer rheoli carfan benodol o gleifion ag UTI syml. Anogir cleifion i hunanreoli eu haint, a dim ond defnyddio gwrthfiotigau os bydd y symptomau'n parhau neu'n gwaethygu ar unrhyw adeg. Mae’r ddogfen hon yn manylu ar ganllawiau ar y defnydd priodol o ddull rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn ar gyfer heintiau hunangyfyngol penodol, y strategaethau y gellir eu defnyddio a phwyntiau arfer da wrth roi’r strategaeth ar waith ym maes gofal sylfaenol.

Mae’r protocol rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn hwn wedi’i baratoi gan grŵp cydweithredol aml-broffesiynol yn dilyn trafodaethau o fewn Grŵp Ffrwd Waith Gofal Sylfaenol y Bwrdd Cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd. Mae’r ddogfen hon yn berthnasol i bawb sy’n ymwneud â rhagnodi, dosbarthu, rhoi a gweinyddu gwrthfiotigau ar gyfer cyflyrau hunangyfyngol a’i nod yw hyrwyddo’r defnydd o strategaethau rhagnodi gwrthficrobaidd wrth gefn a’u rhoi ar waith yn gyson mewn gofal sylfaenol yng Nghymru.

Mae'r ddogfen a'r ffurflen EqHIA gysylltiedig a'r ffurflen adborth i'w gweld isod.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 3ydd Mai 2024.

⇩ Back-up antibiotic prescribing: good practice guide - Consultation draft  (Saesneg yn unig) 564KB (PDF)
⇩ Back-up antibiotic prescribing: good practice guide - Equality and Health Impact Assessment form (Saesneg yn unig) 276KB (PDF)
Rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn: canllaw arfer da - Ffurflen adborth ymgynghori 35KB (dogfen Word)
Dilynwch AWTTC: