Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriadau

Rydym yn cynhyrchu canllawiau presgripsiynu ac adnoddau eraill am feddyginiaethau i helpu cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru i sicrhau bod meddyginiaethau'n cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn briodol.

Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran Optimeiddio meddyginiaethau.

Pan fyddwn yn cynhyrchu'r adnoddau hyn, credwn ei bod yn bwysig bod pobl a allai gael eu heffeithio ganddynt yn cael cyfle i roi eu barn i ni. Gofynnwn i gleifion a gofalwyr, sefydliadau cleifion, presgripsiynwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill wneud sylwadau ar yr adnoddau rydym yn eu datblygu.

Mae mewnbwn gan gleifion yn hollbwysig, oherwydd ein nod yw gwella’r gofal a’r driniaeth rydych yn gael.

Hoffem glywed eich barn ar yr adroddiadau rydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd, a restrir isod. Nid oes angen i chi wneud sylwadau am y ddogfen gyfan, dim ond y rhannau sydd fel petaent yn berthnasol i chi.

Dewiswch y ddogfen yr hoffech wneud sylw amdani o’r rhestr isod, llenwch y ffurflen a’i hanfon atom yn: awttc@wales.nhs.uk.

Rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn: Canllaw arfer da (ymgynghoriad)

Nod y ddogfen hon yw darparu Canllaw Arfer Da Cymru Gyfan ar gyfer gweithredu strategaethau rhagnodi wrth gefn ym maes gofal sylfaenol a chymunedol. Mae’n cynnwys cyngor ynghylch pryd y dylid ystyried rhagnodi wrth gefn, y strategaethau sydd ar gael a sut y dylid dogfennu hyn. Mae tystiolaeth yn cefnogi’r defnydd o strategaeth rhagnodi wrth gefn fel offeryn stiwardiaeth wrthficrobaidd a byddai cael canllaw arfer da yn sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gweithredu’n fwy dibynadwy ledled Cymru a bod y wybodaeth a rennir â chleifion yn fwy cyson.

Dilynwch AWTTC: