Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith gweithredu Cymru gyfan ar gyfer meddyginiaethau biolegol mewn COPD (ymgynghoriad)

Byddem yn croesawu eich sylwadau ar y ddogfen ddrafft Fframwaith gweithredu Cymru gyfan ar gyfer meddyginiaethau biolegol mewn COPD a'r ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA) gysylltiedig.

Datblygwyd y fframwaith gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Anadlol, gyda chefnogaeth Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC). Bydd yn cefnogi gweithrediad rheoledig, dan arweiniad clinigol, o feddyginiaethau biolegol ar gyfer clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) yng Nghymru. Mae wedi'i baratoi i gyfeirio at system cyffuriau cost uchel Blueteq - a fydd yn cynnwys ffurflenni safonol ar gyfer pob meddyginiaeth fiolegol a argymhellir i'w defnyddio ar gyfer COPD yng Nghymru – ac at ganllawiau rheoli a phresgripsiynu COPD Cymru Gyfan .

Mae'r ddogfen, y ffurflen EqHIA gysylltiedig a'r ffurflen adborth i'w gweld isod.

Dyddiad cau: Dydd Mawrth 18 Awst 2026

 All Wales implementation framework for biological medicines in COPD - Consultation draft (Saesneg yn unig) 165KB (PDF)
 All Wales implementation framework for biological medicines in COPD - Equality and Health Impact Assessment form  (Saesneg yn unig) 731KB (PDF)
 All Wales implementation framework for biological medicines in COPD - Ffurflen adborth ymgynghoriad 36KB (.docx)
Dilynwch AWTTC: