Neidio i'r prif gynnwy

System Cyffuriau Cost Uchel Blueteq

Bydd system Cyffuriau Cost Uchel Blueteq (HCD) yn cael ei chyflwyno ar draws GIG Cymru o 1 Ebrill 2023. Bydd y system HCD yn galluogi byrddau iechyd i fonitro’r gwaith o ragnodi meddyginiaethau cost uchel a rheoli’r cymhlethdodau cynyddol sy’n gysylltiedig â’u defnyddio.

Mae system HCD Blueteq yn gwella llywodraethu, yn arwain at fynediad cyflymach i gleifion ac yn sicrhau bod meddyginiaethau’n cael eu rhagnodi yn unol â chanllawiau arfarnu technoleg iechyd a gyhoeddwyd gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).  Mae meddalwedd Blueteq yn cynnig proses safonol i GIG Cymru gyda chyfle i gofnodi setiau data lluosog (fel demograffeg sylfaenol, canlyniadau clinigol, nodweddion cleifion) a lleihau amrywiant.

Mae meddalwedd Blueteq yn cynnig proses safonol i GIG Cymru gyda chyfle i gofnodi setiau data lluosog (fel demograffeg sylfaenol, canlyniadau clinigol, nodweddion cleifion) tra’n lleihau amrywiant.

Bydd y broses o gyflwyno system HCD Blueteq yn cael ei rheoli gan Grŵp Llywio Blueteq Cymru Gyfan, a gaiff ei gadeirio gan Brif Fferyllydd a bydd cymorth Rheoli Prosiect yn cael ei ddarparu gan AWTTC.

Fe’i cyflwynir fesul cam ac yn unol â’r blaenoriaethau a osodwyd gan y grŵp llywio. Bydd y cam cychwynnol yn cynnwys meddyginiaethau yr argymhellir eu defnyddio gan NICE ac AWMSG a allai fod â threfniant masnachol cysylltiedig neu beidio.

Dogfennau

Beth yw system cyffuriau cost uchel Blueteq (HCD)?

  • System feddalwedd ar y we yw Blueteq a ddefnyddir yn eang ledled NHS England i gymeradwyo a rheoli meddyginiaethau cost uchel ar draws ystod o gyflyrau gofal iechyd.
  • Gwella llywodraethu i sicrhau cydymffurfiaeth ag arfarniadau NICE ac AWMSG a gomisiynir.
  • Ffurflenni blwch ticio hawdd eu defnyddio, yn galluogi cymeradwyaeth ar unwaith i glinigwyr.
  • Gall Blueteq ddarparu ystod lawn o adroddiadau i wasanaethau clinigol i helpu i ddatblygu gwasanaethau a chynllunio’r gweithlu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.blueteq.com/

Dilynwch AWTTC: