Neidio i'r prif gynnwy

Tynnu contract desfflwran cenedlaethol yng Nghymru yn ôl

Nod y prosiect hwn yw atal pob defnydd ar y nwy anesthetig desfflwran mewn ysbytai yng Nghymru. Mae hyn oherwydd ei effaith gormodol ar yr amgylchedd, diffyg budd clinigol o’i gymharu â dewisiadau eraill sydd ar gael yn fwy diweddar, a chost uchel.

Nwy anesthetig yw desfflwran sydd ag ôl troed carbon uchel ac sy’n niweidiol i’r amgylchedd. Bydd rhoi’r gorau i ddefnyddio desfflwran yn helpu GIG Cymru i gyrraedd ei darged sero net erbyn 2030, ac mae’n unol â Chynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru. Ni fydd rhoi’r gorau i ddefnyddio desfflwran yn peri anfantais sylweddol i gleifion oherwydd bod dewisiadau eraill ar gael: nwyon anesthetig eraill ag ôl troed carbon is sy’n gweithio cystal.

Withdrawal of national desflurane contract in Wales (Saesneg yn unig) 254KB (PDF)

(Rhagfyr 2023)

Ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA).

Dilynwch AWTTC: